To read this blog in English, please click here

Roedd gylfiniriaid yn arfer bod yn gyffredin ar draws y dirwedd ffermio, ac fe'u gwelid yn aml mewn gweirgloddiau ac ar dir pori brwynog. Fodd bynnag, mae llai o amrywiaeth ohonynt ac mae eu niferoedd wedi gostwng 50% ers 1970-2009 gan adael dim ond 1000 o barau ar ôl yng Nghymru. Mae dwysedd nythu'r gylfiniriaid bellach yn uwch lle mae rhostiroedd yn cwrdd â thir fferm caeedig, gan fod y tir fferm yn gallu darparu cyfleoedd da iddynt chwilio am fwyd tra bo'r rhostiroedd yn darparu safleoedd nythu da.

Y gylfinir - Andy Hay, rspb-images.com

Cyfeiriodd fy mlog diwethaf at y Migneint a'r ardal sy'n gartref i, ac a gaiff ei rheoli ar gyfer, y cwtiad aur. Mae ardal arall o'r Migneint yn gartref i nifer o barau o'r gylfiniriaid. Ond rydyn ni eisiau gweld mwy! Mae gylfiniriaid yn byw am tua 30 o flynyddoedd ac maent yn rhyfeddol o ffyddlon i'w safle, felly byddwch yn aml yn gweld yr un parau'n dychwelyd bob blwyddyn. Dim ond un cyw bach y mae angen i bâr ei fagu hyd nes bydd yn llawn dwf er mwyn cynnal y boblogaeth. Ond yn anffodus, mae niferoedd y gylfiniriaid yn lleihau ar gyfradd syfrdanol, felly mae gwarchod y rhywogaeth hon a'i helpu i ffynnu yn waith pwysig iawn. Er mwyn galluogi hyn, rydym yn gweithio gyda thirfeddianwyr a phartneriaid ar draws y DU i benderfynu ar y ffordd orau i fynd i'r afael ag prif achosion y gostyngiadau hyn - yn bennaf y diffyg mewn cynefinoedd addas ond hefyd yr effaith caiff ysglyfaethwyr cyffredinol sydd i weld yn ffynnu ar y tirweddau rydym wedi creu.

Mae 12 o ffermwyr yn gweithio ar y tir lle mae'r gylfiniriaid yn bridio, ac mae pob un ohonynt wedi bod yn gydweithredol iawn yn ein gadael i fonitro'r adar a'r cynefin cyn argymell ardaloedd i'w rheoli.  Roedd hyn yn golygu torri ardaloedd o frwyn trwchus i gael llystyfiant o uchder gwahanol, gydag ardaloedd uchel i'r gylfiniriaid guddio a nythu ynddynt, a darnau byrrach iddynt fwydo ynddynt. Go brin y mae'r gylfiniriaid yn hoffi cael brwyn pigog yn eu llygaid tra byddant yn chwilio am bryfed genwair, pysgod croen lledr, chwilod, pryfed cop a lindys!

Pam mae gweithio gyda ffermwyr yr ucheldir mor bwysig i natur

Dydy da byw ar y cyfan ddim yn bwyta brwyn, er bod y blagur llai aeddfed, llawn sudd yn eithaf blasus.  Felly rydyn ni'n gobeithio y bydd y defaid yn cael eu denu at yr ardaloedd sydd wedi'u torri a fydd yn helpu i'w cadw'n fyr.  Mae torri gwair mewn ardaloedd mawr yn aml yn gostus, yn cymryd amser ac yn ffordd anghynaliadwy o reoli'r cynefin.  Dyna pam mae gweithio gyda'r ffermwyr mor bwysig.  Caiff dros 80% o dir Cymru ei reoli gan ffermwyr, sy'n golygu eu bod wrth wraidd y gwaith o achub natur yng Nghymru.  Heb eu cefnogaeth nhw i sicrhau dulliau pori priodol i'n helpu gyda'n gwaith ni, ni fyddem yn gallu cyflawni cymaint ag y gwnawn. Heb eu sgiliau, eu harbenigedd a'u haelioni nhw, ni fyddem yn gallu cydweithio i roi cartrefi i fywyd gwyllt arbennig Cymru a'u gwarchod.

Torri brwyn trwchus ar gyfer y Gylfiniriaid. Llun: Rhian Pierce

 


Darllenwch mwy o ddeunydd am y gylfinir isod neu cliciwch yma i wrando ar galwad y gylfinir:

http://www.rspb.org.uk/community/ourwork/b/biodiversity/archive/2017/04/24/the-curlew-wet-footed-god-of-the-horizons.aspx

http://www.rspb.org.uk/community/ourwork/b/biodiversity/archive/2017/04/25/curlew-in-trouble.aspx

http://www.rspb.org.uk/community/ourwork/b/biodiversity/archive/2017/04/26/all-you-need-to-know-about-curlew.aspx