To read this blog in English please click here.

O Stadiwm Principality a’r Cynulliad Cenedlaethol i Ganolfan y Mileniwm a Chastell Caerdydd, mae prifddinas Cymru, sy’n enwog am ei chwtsh cyfeillgar a’i chroeso cynnes Cymreig, yn sicr yn le eiconig.

Wrth i ni ddathlu Blwyddyn Chwedlau Croeso Cymru yn 2017, hoffai RSPB Cymru, Cyngor Dinas Caerdydd a Migrations eich gwahodd i ddathlu llefydd gwyllt chwedlonol Caerdydd drwy ddawnsio ym mannau gwyrdd bendigedig y brifddinas. Mewn cydweithrediad â’r artist o America, Ely Kim, bydd Boombox Caerdydd yn dod â 100 o bobl ynghyd i gael eu ffilmio’n dawnsio i'w hoff gerddoriaeth yn eu hoff fannau gwyrdd yn y ddinas – gan ddathlu a mynegi eu cysylltiad â byd natur a'r mannau maen nhw’n eu mwynhau fwyaf.

Lluniau gan Migrations

Gyda dros 400 o fannau gwyrdd ar draws y ddinas, Boombox Caerdydd yw’r cyfle perffaith i bobl Caerdydd roi sylw i'r mannau sy'n golygu rhywbeth iddyn nhw – a dathlu’r llefydd a’r bobl sy'n rhoi ein dinas chwedlonol ar y map. O Barc hyfryd Bute, a siapiwyd gan yr eicon Andrew Pettigrew, i Ynys Echni – ynys wyllt y ddinas yn yr aber a’r man lle trosglwyddwyd signal di-wifr gan yr enwog Marconi – mae gan Gaerdydd bob math o lefydd eiconig i ddawnsio ynddyn nhw. Gallech roi clod i’n hadar gleision chwedlonol drwy ddawnsio yn Stadiwm Dinas Caerdydd, neu yng Ngerddi’r Orsedd ochr yn ochr â’r gwleidydd enwog, David Lloyd George. Neu efallai yr hoffech chi anrhydeddu’r Dyn Gwyrdd mytholegol ym Mharc Thompson, a dathlu natur yn ei holl ogoniant y gwanwyn hwn?  Chi piau’r dewis. Y cyfan mae angen i chi ei wneud yw dweud wrthym ble mae’ch hoff fan gwyrdd a pha drac fyddech chi'n hoffi dawnsio iddo ac fe wnawn ni’r gweddill.

Yr hyn sy’n wych am Boombox Caerdydd yw nad oes rhaid i chi fod yn ddawnsiwr proffesiynol i gymryd rhan – gall unrhyw un, yn ifanc neu'n hen ymuno. Yr hyn sy'n bwysig yw cael hwyl a phrofi pleser dawnsio. Rydym wedi bod yn brysur yn ffilmio rhai o drigolion eiconig Caerdydd dros y gaeaf ar gyfer Boombox, ond wrth i’r dydd ymestyn ac wrth i’r tywydd gynhesu, bydd yn bleser anrhydeddu mannau gwyllt y ddinas wrth iddyn nhw groesawu’r gwanwyn.

Mae Caerdydd, gyda’i mannau gwyrdd a’i pharciau hyfryd, ei harwyr chwaraeon a’i heiconau diwylliannol, yn sicr yn ddinas o fri. Rydym ni’n lwcus iawn ein bod yn byw mewn dinas sy'n llawn o bobl eiconig sy’n helpu i wneud Caerdydd yn unigryw. Mae'r prosiect Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd yn helpu i gysylltu miloedd o bobl â natur ledled y ddinas, a drwy Boombox Caerdydd, rydym am ddathlu’r bobl sy’n helpu i wneud Caerdydd yn chwedlonol – gan anrhydeddu ein mannau hanesyddol a mawrion heddiw. 

Os oes gennych chi awydd gwisgo eich sgidiau dawnsio a bod yn rhan o Boombox Caerdydd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Ewch i http://migrations.uk/Boombox+Cardiff i gael rhagflas ac i gofrestru am ddim. Bydd y ffilm fer ar gyfer Boombox Caerdydd yn cael ei dangos yn hwyrach yn y flwyddyn yng Nghaerdydd i anrhydeddu cymunedau’r ddinas a’i mannau gwyllt.


Llun gan Martyn Poynor