To read this blog in English, please click here.

Rai wythnosau yn ôl, fe wnaeth RSPB Cymru, Prifysgol Bangor a Cynidr Consulting, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, gynnal digwyddiad arloesol yng Nghanolfan Fusnes a Chynadleddau Glasdir yn Llanrwst ar ‘ddyfodol ffermio ar yr ucheldiroedd yng Nghymru’. Y digwyddiad hwn oedd y cyntaf o’i fath, a denodd dros 150 o gynadleddwyr, gan gynnwys ffermwyr, eu cynrychiolwyr, arbenigwyr ar bolisïau, academyddion a swyddogion y Llywodraeth. Daeth pawb ynghyd i ystyried ffordd newydd o weithio a fydd yn siapio dyfodol polisi rheoli tir yng Nghymru. Y neges ddigamsyniol o'r gynhadledd, a atseiniodd drwy Gymru, oedd bod yn rhaid i'r polisi newydd fod yn dda i bobl, i ffermwyr ac i natur fel ei gilydd. 

Dyma Rheolwr Cefn Gwlad RSPB Cymru, Arfon Williams, yn siarad yn ystod y cynhadledd.

Nod y digwyddiad llwyddiannus oedd creu lle ar gyfer trafodaeth a sgwrs i ddychmygu beth allai dyfodol yr ucheldiroedd fod - ac roedd y diwrnod yn llwyddiannus iawn.  Daeth y gynhadledd â phobl at ei gilydd o bob cwr o'r sector amaeth yng Nghymru, gan arwain at drafodaeth rydd a chadarnhaol am ddyfodol ein hucheldiroedd.

Bu’r digwyddiad yn edrych ar y goblygiadau posibl o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, effaith deddfwriaeth amgylcheddol a datblygu cynaliadwy newydd Cymru (Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015), a pholisïau yn y dyfodol ar ffermio ar yr ucheldiroedd. Bu hefyd yn archwilio’r berthynas allweddol rhwng amaeth a’r tirweddau, yr amgylchedd a byd natur, yn ogystal â rhoi cyfle i ffermwyr drafod a chyfrannu at ddatblygu polisïau ar gyfer y dyfodol. Roedd rhaglen ‘Ffermio’ S4C yno’n ffilmio'r diwrnod, a gallwch weld y digwyddiad yn y fan yma.** 

Un o'r prif negeseuon drwy gydol y diwrnod oedd y posibilrwydd y gallai ffermwyr ucheldiroedd reoli eu tir mewn ffordd sy'n darparu llawer mwy o fanteision i'r cyhoedd na chynhyrchu bwyd yn unig. Drwy greu amgylchedd naturiol iach, mae rheolwyr tir yn helpu i ddarparu pethau fel dŵr yfed glân, aer glân, storio carbon, tirwedd ddeniadol i bobl ei mwynhau, a chynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt. Yn eu tro, mae’r rhain yn rhoi hwb i’n heconomïau gwledig ac i’n hiechyd a’n lles. Dylid gwobrwyo ffermwyr am ddarparu’r gwasanaethau hyn i’r gymdeithas yn ehangach ochr yn ochr â’u rôl fel cynhyrchwyr bwyd.

Yr hyn oedd fwyaf trawiadol ar y diwrnod oedd bod pawb yn dod o wahanol safbwyntiau gyda gwahanol syniadau, ond nid y gwahaniaethau rhyngom oedd dan sylw. Y thema oedd ‘sut gallwn ni gydweithio ar hyn’ a ‘sut gallwn greu dyfodol mwy llewyrchus a chryfach ar gyfer yr ucheldiroedd?’ Daeth yn eglur bod yn rhaid inni’n wir weithio mewn partneriaeth er mwyn cael y dyfodol yr oedd pawb yn ei ddymuno. Ymddengys fod y gynhadledd yn gam cyntaf ar y siwrnai honno. 

I gael mwy o wybodaeth am y gwaith a wnawn ym maes bwyd ac amaeth yng Nghymru, cysylltwch â cymru@rspb.org.uk

*Roedd y siaradwyr yn cynnwys Dei Thomas o BBC Cymru; Kevin Austin - Pennaeth Polisi Amaeth Llywodraeth Cymru; arbenigwr ar yr Economi Amaethyddol - yr Athro Peter Midmore; Tony Davies a Hefin Jones o ‘Tegwch i'r Ucheldir’; Gwyn Jones - Prif Weithredwr EFNCP (Fforwm Ewropeaidd ar Gadwraeth Natur a Bugeilyddiaeth); Guto Davies - ffermwr ar ystâd Ysbyty Ifan yn cynrychioli cymuned ‘Fferm Ifan’; y ffermwyr Sorcha Lewis a Patrick McGurn; ac Arfon Williams - Rheolwr Defnydd Tir yn RSPB Cymru.

**Bydd yr holl gyflwyniadau ar gael maes o law ar wefan Prifysgol Bangor. Hefyd ar gael, bydd adroddiad o’r Gynhadledd, a fydd yn tynnu sylw at brif faterion, pryderon a blaenoriaethau'r cynadleddwyr, i'w hystyried wrth ddatblygu polisi rheoli tir ar gyfer y dyfodol.