To read this blog in English, please click here.

Ar nos Sul, dechreuodd hi ar ei siwrnai yn ôl o Afon Dyfi. Erbyn 6yp y noson ganlynol, roedd hi wedi cyrraedd Hofn yng Ngwlad yr Iâ.

Mae ein taith i’r gwaith yn gallu bod yn un eithaf cyffredin, yn tydi? Aros yn ein hunfan ar yr A55, cael ein dal y tu ôl i dractor ar yr A470 neu gael ein siomi gan drên hwyr. Hyd yn oed os ydym ni’n cerdded neu’n beicio i’r gwaith, efallai na wnawn ni basio dim ond un neu ddau o bobl; efallai Mrs Jones drws nesa’ neu Mr Thomas sy’n rhedeg y siop leol. Cymharwch hynny gyda thaith rhai o wyddau talcenwyn yr Ynys Las rhwng y tiroedd lle maen nhw’n gaeafu, wrth iddyn nhw deithio o Aber Afon Dyfi yng ngogledd Cymru i Wexford yn yr Iwerddon ac yn ôl. Maen nhw’n hedfan yn uchel uwchben Môr Iwerddon, heb gar na thractor yn y golwg – dim ond ambell i frân goesgoch neu hebog tramor yn eu dal i fyny. Yn lle nodio’ch pen ar Mrs Jones, maen nhw’n nodio ar lamhidyddion neu ddolffiniaid trwyn potel, sy’n disgleirio drwy donnau anfaddeugar sy’n taro islaw. Wel, dyna daith ddiddorol, a ydych chi’n cytuno?

Andy Hay, rspb-images.com

Mae gwyddau talcenwyn yr Ynys Las, sy’n fwy na hwyaden wyllt ond yn llai nag alarch, wedi gweld eu poblogaeth yn gostwng ar raddfa frawychus. Ond yn awr, gyda llai na 25 o adar yn gaeafu ar Aber Afon Dyfi, mae’r boblogaeth aeafu yng Nghymru yn anffodus yn dirywio ar raddfa gyflymach na’r cyfartaledd drwy’r byd – gyda dirywiad o 83% yn y niferoedd ers 1990.

Fodd bynnag, diolch i £24,000 o gyllid newydd gan Lywodraeth Cymru, cymerodd partneriaeth gwyddau talcenwyn yr Ynys Las yng Nghymru* gamau hanfodol i newid hyn yn Rhagfyr 2016, oherwydd ei bod yn goruchwylio proses dagio er mwyn darganfod lle’r oedd y gwyddau yn gaeafu. Wrth wneud hyn, gobaith y bartneriaeth oedd darganfod symudiadau ac arferion tymhorol yr adar ar Aber Afon Dyfi ac o’i gwmpas. Gobeithiwn gael oddeutu 18 mis o ddata o’r tagiau, a fydd yn caniatáu amser i ddarganfod am eu llwybrau mudo a lle y byddan nhw’n treulio eu hamser yng Nghymru yn ystod yr hydref a’r gaeaf nesaf.

Ar ôl tagio 12 o’r gwyddau sydd mewn perygl drwy’r byd yn llwyddiannus – dwy gyda thagiau GPS a deg gyda choleri gwddf – roedd y data a gawsom yn llawn o senarios diddorol.

Mae'r map yma yn dangos eu symudiadau rhwng tiroedd gaeafu yn Aber Afon Dyfi ac Wexford.

Wythnos ar ôl dal a thagio, gadawodd un o’r adar a gafodd ei dagio a’i fêt Aber Afon Dyfi a symudon nhw i Wexford yng ngogledd-ddwyrain Iwerddon; safle gaeafu gwybyddus lle mae oddeutu 8,000 neu fwy o wyddau talcenwyn yr Ynys Las yn gaeafu bob blwyddyn. Dengys hwn y cysylltedd rhwng poblogaethau gaeafu a’r rhwyddineb mewn symudiadau rhwng y ddau. O bosibl, mae hyn yn dangos yn ogystal nad yw ein poblogaeth yn Aber Afon Dyfi wedi dirywio, a gall olygu nad yw’r gostyngiad mewn niferoedd yn Aber Afon Dyfi dros yr 20 mlynedd ddiwethaf yn ddirywiad mewn niferoedd yn syml fel yr ofnwyd ar y dechrau. Mae hyn, mewn gwirionedd, yn rhoi ychydig o obaith, os yw’r amodau yn iawn, y gallai ailsefydlu haid i aeafu yn Aber Afon Dyfi fod yn bosibilrwydd yn y dyfodol. 

Y peth nesaf ar gyfer gwyddau talcenwyn yr Ynys Las yw’r mudo hir, oddeutu 1,700 o filltiroedd yn ôl i’r Ynys Las, lle bydd yr aderyn eiconig hwn gyda’i gadernid neilltuol yn gweld golygfeydd prydferth ar y ffordd. Rydym ni wedi bod yn disgwyl yn eiddgar am ddechrau eu siwrnai yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, ac yn hwyr nos Sul, dyma a wnaeth un o’n gwyddau ni a oedd wedi cael ei thagio.

Mae'r map yma yn dangos y siwrne ddigwyddodd nos Sul o Aber Afon Dyfi i Hofn yng Ngwlad yr Iâ.

Dechreuodd hi ar ei siwrnai yn ôl drwy adael Afon Dyfi a hedfan dros Ynys Môn. Yn rhyfeddol, cyrhaeddodd yn Mull yn yr Alban am 4yb, hedfanodd dros Warchodfa Natur Naturiol Rum am 6yb ac erbyn 7yb, roedd wedi cyrraedd Stornoway. Erbyn 6yp y noswaith ganlynol, cofnodwyd ei bod wedi cyrraedd Hofn yng Ngwlad yr Iâ, lle y bydd yn awr yn aros gyda gwyddau talcenwyn yr Ynys Las eraill yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.  Bydd y daith wedyn yn gyflawn pan fyddan nhw’n dychwelyd i’r Ynys Las.

Gobeithiwn y bydd y wybodaeth hanfodol yr ydym ni’n ei darganfod ar y ffordd yn parhau i’n helpu ni warchod ein poblogaeth aeafu werthfawr – nid yn unig yng Nghymru ond ymhellach na hynny – ac yn ogystal, y bydd yn helpu gwyddau talcenwyn yr Ynys Las i ffynnu unwaith eto yn y dyfodol.

Os ydych chi angen mwy o wybodaeth ynglŷn â gwaith cadwraeth hanfodol partneriaeth gwyddau talcenwyn yr Ynys Las, cysylltwch â cymru@rspb.org.uk os gwelwch yn dda.

 

* Ochr yn ochr â RSPB Cymru, mae’r bartneriaeth yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir, Mick Green, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain a Chymdeithas Adarwyr Dyfi, Mawddach a Dysynni.