To read this blog in English, please click here
Mae natur Cymru yn anhygoel - o nythod adar môr ysblennydd i riffiau marchfisglod; barcutiaid coch yn hedfan uwchben i'r gwyfyn cliradain Cymreig. Mae'n ein gwefreiddio ac yn ein hysbrydoli, gan ddod a’n hamgylchedd ni’n fyw. Rydym angen natur i fyw; rydym yn dibynnu arno am yr aer rydym ni’n anadlu, y dŵr rydym ni’n yfed a'r bwyd rydym yn ei fwyta, heb sôn am ein lles meddyliol a chorfforol. Felly mae'n bryder mawr, i'n cenhedlaeth ni a chenedlaethau'r dyfodol, ein bod yn ei golli’n gyflym. Dywed adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016: Cymru fod un o bob 14 o rywogaethau yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu. Mae’n amser i rywbeth newid.
Ben Hall, rspb-images.com
Y llynedd dechreuodd Sophie Howe ei swydd fel Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol cyntaf yma yng Nghymru, gyda’r rôl hanfodol o greu Cymru well ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
I helpu i gyflawni hyn, mae’r Comisiynydd ar hyn o bryd yn gofyn am farn pobl ynglŷn â meysydd blaenoriaeth dros y blynyddoedd nesaf, i gefnogi datblygiad cynaliadwy ledled Cymru. Mae pedair her gyffredinol eisoes wedi cael eu nodi: newid yn yr hinsawdd; newid yn yr economi; newid yn y boblogaeth ac ymddieithriad dinasyddion.
Gyda’r gostyngiad radical o ran niferoedd bywyd gwyllt, rydym felly’n siomedig nad yw colled byd natur wedi’i nodi fel un o’r prif heriau. Mae dirywiad byd natur yn fater hollbwysig i genedlaethau'r dyfodol a byddwn yn rhoi gwybod i’r Comisiynydd am hyn drwy ymgysylltu â'r gwaith o ddatblygu ei blaenoriaethau gweithredu ymhellach. Gallwch hefyd roi llais i fyd natur a helpu drwy lenwi holiadur arlein sydd ar gael ar wefan Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol gan glicio ar y ddolen yma.
Os ydych chi’n cytuno y dylai mynd i'r afael â colled byd natur fod yn un o flaenoriaethau’r Comisiynydd, gallwch ddefnyddio ein canllaw fel templed atebion, sydd ar gael drwy agor y ddolen isod: