To read this blog in English please click here.

Dros y pum mlynedd nesaf mae’r tîm yn gobeithio ennyn diddordeb 50,000 o blant a'u teuluoedd mewn byd natur a darparu sesiynau allgymorth rhad ac am ddim yn holl ysgolion cynradd Caerdydd. Mae’r prosiect hefyd yn llunio partneriaeth gyffrous â phrosiect Buglife Cymru, Urban Buzz Caerdydd, er mwyn cynyddu nifer y cynefinoedd sy'n gyfeillgar i bryfed beillio ledled y ddinas.

Ers 2014 mae ein project Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd wedi bod yn brysur yn ennyn diddordeb dros 20,000 o blant a theuluoedd mewn bywyd gwyllt ledled Caerdydd - o ddolydd blodau gwyllt Fferm y Fforest i ardaloedd wyllt Ynys Echni. Mae wedi darparu sesiynau allgymorth rhad ac am ddim i dros 60% o ysgolion cynradd Caerdydd, gan ddod â 13,600 o blant i gysylltiad â byd natur. Mae wedi helpu cymunedau yn 90% o wardiau Caerdydd i dreulio mwy o amser gyda bywyd gwyllt drwy ddigwyddiadau am ddim i’r teulu, ac wedi gweithio gyda gwirfoddolwyr lleol sydd wedi treulio cymaint â 3,600 awr yn helpu cymunedau i ymwneud â byd natur yn y ddinas.

Fodd bynnag, gyda chymaint o gyfoeth o fywyd gwyllt yn y ddinas, mae digon o waith ar ôl i’w wneud i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i gymryd camau i gefnogi byd natur a’i drysori am flynyddoedd i ddod. Rydym felly wrth ein bodd i rannu fod y project - mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Caerdydd a Buglife Cymru - ar fin elwa o £500,000 gan y Gronfa Loteri Fawr i barhau i helpu miloedd o bobl ifanc i dreulio mwy o amser gyda byd natur yng Nghaerdydd tan 2022.

Mae Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd yn ffordd wych o annog plant nid yn unig i ymweld â'n parciau a'n mannau agored gwych yn rheolaidd, ond hefyd i'w hystyried yn ardaloedd lle gallant gael hwyl fel teulu. Mae’r prosiect eisoes wedi bod yn hynod lwyddiannus, gan ddenu 77,000 o ymwelwyr i Barc Bute Caerdydd ers iddo ddechrau yn 2014 ac mae wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau am ddim i’r teulu ar hyd a lled y ddinas; felly mae’n newyddion ardderchog y byddem yn gallu helpu hyd yn oed mwy o deuluoedd i gymryd diddordeb yn ein bywyd gwyllt a mwynhau’r manteision o dreulio amser yn yr awyr agored.

Ar hyn o bryd, mae Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd yn cael ei ariannu gan gwsmeriaid Tesco drwy’r ardoll ar fagiau plastig yng Nghymru tan 31 Mawrth 2017. Bydd y Prosiect yn cael ei ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr o 1 Ebrill ymlaen tan 2022. Rydym hefyd yn falch iawn o gadarnhau, diolch i Aldi yn sgil yr ardoll ar fagiau plastig yn y DU, y gall gwaith sesiynau allgymorth y project barhau mewn ysgolion tan 2019. Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y project ebostiwch Carolyn.Robertson@rspb.org.uk os gwelwch yn dda.


Lluniau: Martyn Poynor