To read this blog in English please click here.O ddolydd blodau gwyllt Fferm y Fforest yr holl ffordd draw i dir gwyllt Ynys Echni, mae Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd wedi bod yn ennyn diddordeb plant a theuluoedd ym myd natur ledled y ddinas ers 2014.
Rydym wedi darparu sesiynau allgymorth rhad ac am ddim i 60% o ysgolion cynradd Caerdydd, gan ennyn diddordeb dros 13,600 o blant ym myd natur. Rydym wedi helpu cymunedau yn 90% o wardiau Caerdydd i dreulio mwy o amser yng nghanol y bywyd gwyllt ar eu stepen drws drwy ddigwyddiadau am ddim i'r teulu, ac wedi gweithio gyda gwirfoddolwyr lleol sydd wedi cyfrannu 3,600 awr o’u hamser i helpu bywyd gwyllt yn y ddinas. Rydym wedi ymddangos mewn parciau, canolfannau cymunedol a mannau gwyrdd ledled Caerdydd er mwyn darparu gweithgareddau awyr agored llawn hwyl ar gyfer pobl ifanc - o helfeydd pryfaid genwair i weithdai garddio ar gyfer bwyd gwyllt. Rydym wedi darparu sesiynau allgymorth rhad ac am ddim i o ysgolion cynradd Caerdydd er mwyn eu helpu i ddarganfod yr holl blanhigion ac anifeiliaid sy'n byw ar dir eu hysgol, sydd, yn ei dro, yn rhoi hwb o'r newydd i'w chwilfrydedd ym myd natur. Er hynny, mae digonedd o waith i'w wneud o hyd, a nawr rydym am annog hyd yn oed mwy o deuluoedd ym mhob rhan o'r ddinas i dreulio amser allan yn yr awyr agored, yn darganfod ac yn mwynhau'r bywyd gwyllt sydd yn eu cymunedau.” Mae teuluoedd yn wyllt am fywyd gwyllt… Drwy wahodd plant i gael hwyl a sbri yn eu hesgidiau glaw a dod at ei gilydd i rwydo pyllau neu i hela bwystfilod bach, sefydlodd y prosiect glwb bywyd gwyllt mwyaf cyffroes Caerdydd ym mis Ebrill 2016. Mae Ditectifs Bywyd Gwyllt Caerdydd yn annog teuluoedd i dreulio amser gwerth chweil gyda’i gilydd yn anturio yn y gwyllt ac rydym yn nawr yn gweithio gyda dros 30 teulu yn y ddinas. Rydym wedi bod yn archwilio pyllau glan môr yn nhraeth Sili, yn bondocio coed yn Fferm y Fforest ac yn darganfod bywyd gwyllt wrth gerdded Llwybr Antur Parc Bute. Mae plant mor ifanc â dau oed wedi bod wrth eu bodd yn tynnu planhigion ymledol enfawr sy’n dalach na nhw’u hunain o'r ddaear, a phobl ifanc 15 oed wedi cael eu gwireddu gan y creaduriaid maent wedi'u dal yn y pwll yn Fferm y Fforest. Hoffwn i deuluoedd fentro allan i fwynhau popeth sydd gan yr awyr agored i'w gynnig, oherwydd cyn gynted ag y byddwch chi’n dechrau chwilio, byddwch yn siŵr o ddod o hyd i fywyd gwyllt o bob math yn union o dan eich trwyn!
O we pry cop enfawr i rith-realiti yn y parc... Bu mwy fyth o bobl yn mwynhau rhyfeddodau bywyd gwyllt Caerdydd yn 2015 wrth i ni ddod â chreadigrwydd ac arloesedd i Barc Bute ar ffurf TAPE. Wedi’i ei gyflwyno mewn partneriaeth â’r sefydliad celfyddydol, Migrations, bu TAPE yn galluogi i 74,000 o bobl ddarganfod a chrwydro drwy we pry cop enfawr yn y coed, gan roi persbectif hollol wahanol iddynt ar y byd naturiol. Ond, nid dyma ddiwedd ar y creadigrwydd o bell ffordd. Bu ni’n cydweithio â Migrations unwaith eto yn haf 2016 ar gyfer Drwy Lygaid yr Anifail - profiad rhith-realiti 360 gradd yng nghanol Parc Bute. Cafodd teuluoedd eu cludo ar daith aml synhwyrol drwy lygaid gwybedyn, gwas y neidr, llyffant a thylluan oedd yn byw yn y parc. Ac yn olaf, ond nid y lleiaf, fel rhan o’n menter ddiweddaraf gyda Migrations, Boombox Caerdydd, bydd 100 o drigolion Caerdydd yn cael eu ffilmio wrth iddynt ddawnsio yn eu hoff fannau gwyrdd yn y ddinas, i ddathlu eu cysylltiad â byd natur a'r mannau lle mae’r cysylltiad hwn ar ei orau. Roedd TAPE a Drwy Lygaid yr Anifail yn llwyddiant ysgubol, gan ddenu 77,000 o ymwelwyr i Barc Bute a helpu pobl i uniaethu â bywyd gwyllt a mwynhau'r ymdeimlad o ryfeddod y mae natur yn ei ysgogi mewn ffyrdd newydd ac unigryw.”
Erych tua’r dyfodol... Yn anffodus, rydym bellach yn gwybod mai dim ond 1 plentyn ym mhob 8 yng Nghymru sydd â chysylltiad rhesymol â'r amgylchedd naturiol a bod 1 ym mhob 14 rhywogaeth yng Nghymru yn wynebu difodiant. Heb ots nac oni bai, mae hwn yn rheswm i barhau â'r gwaith hollbwysig y mae Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd yn ei wneud. Wrth wneud hynny, y gobaith yw y bydd mwy fyth o blant a theuluoedd yn gallu treulio amser yng nghwmni'r bywyd gwyllt sydd yn eu dinas, ac y bydd hyn yn eu hysbrydoli i gymryd camau nid yn unig i gefnogi byd natur, ond i'w drysori.
Ariennir Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd ar hyn o bryd tan 31 Mawrth 2017 drwy daliadau cwsmeriaid Tesco drwy ardoll Llywodraeth Cymru ar fagiau plastig. Mae’r prosiect nawr yn chwilio am gyllid i barhau â’r gwaith. Ond mae’n bleser gennym gadarnhau y bydd y gwaith allgymorth ar gyfer ysgolion yn gallu parhau tan 2019 diolch i Aldi, drwy'r drwy ardoll bagiau plastig y DU. Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y project, ebostiwch cymru@rspb.org.uk os gwelwch yn dda.Lluniau uchod: Martyn Poynor a bachden yn dawnsio gan Migrations