To read this blog in English please click here.

Mae mis Ionawr yn cynnal amrywiaeth o emosiynau - i rai mae’n gyfle da i ffarwelio â holl ormodedd y Nadolig a dechrau’r flwyddyn o’r newydd. I eraill mae’n amser cael yn heini neu i gynilo arian ar ôl yr holl wario dros y gwyliau. Ond i’r adar yn ein gerddi, mae mis Ionawr bob amser yn gyfnod da i hel cyflenwad o fwyd a mwynhau tameidiau blasus er mwyn wynebu misoedd caled y gaeaf o’u blaenau.

Wrth i ni ddianc rhag tywydd oer y gaeaf, rydym yn gofyn i chi feddwl am ein hadar cyn digwyddiad blynyddol Gwylio Adar yr Ardd - yr arolwg mwyaf yn y byd o fywyd gwyllt ein gerddi - a’r cyfan o’ch cartrefi neu’ch man gwyrdd lleol.

Rydym yn galw ar fwy o bobl nac erioed o’r blaen i gymryd rhan - ac eleni bydd gennych ddiwrnod ychwanegol i wylio’n ymwelwyr yr ardd gan fod Gwylio Adar yr Ardd yn cael ei gynnal dros dri diwrnod o 28-30 Ionawr. Bu dros 24,000 o bobl yn cymryd rhan yng Nghymru yn 2016 a gyda’r gaeaf yn ei anterth mae’n gyfle perffaith i sicrhau bod y teulu cyfan yn cymryd rhan. Rhowch y tegell ymlaen, ewch i nôl bisged a chyfrwch yr adar a welwch yn eich gerddi.


Uchod: Rahul Thanki (rspb-images.com)

Yn ogystal â chyfri’r adar, hoffem wybod am y bywyd gwyllt arall sy’n byw yn eich cartref drwy gydol y flwyddyn - megis nadroedd y gwair, draenogod, chwilod corniog,  carlymod a thyrchod daear. Ond yn bwysicach na dim, does dim gwahaniaeth os byddwch yn gweld cyfoeth o fywyd gwyllt neu ddim o gwbl, gan y byddem yn dal eisiau clywed gennych er mwyn i ni allu gweld beth yw sefyllfa ein byd natur a rhoi help llaw i’r bywyd gwyllt sydd efallai mewn trafferth.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae tywydd garw wedi effeithio ni gyd. Yn anffodus, mae’r newid hwn yn yr hinsawdd hefyd wedi effeithio nifer yr adar a welwn yn ein gerddi. Yn ystod Gwylio Adar yr Ardd 2016 bu gostyngiad yn nifer y drudwy a’r fronfraith. Mae’r gostyngiad hwn yn parhau tuedd sydd wedi golygu fod niferoedd y ddwy rywogaeth sy’n ymweld â’n gerddi wedi lleihau ers Gwylio Adar yr Ardd gyntaf yn 1979.


Uchod: Ben Hall (rspb-images.com)

Er bod darparu bwyd ar gyfer ein hadar yn bwysig, mae nifer o ffyrdd eraill o helpu hefyd.  Mae adar angen ystod eang o blanhigion er mwyn ffeindio lloches, fel y gallant ddefnyddio’r teclynnau bwydo a ddarparwn yn y gaeaf yn ogystal â’r planhigion llawn neithdar sy’n denu pryfed yn yr haf.  Yn ystod y Gwylio Adar yr Ardd 2017, beth am edrych ar y ffordd y mae’r adar yn dod at eich teclynnau bwydo gan ddefnyddio gwahanol goed, llwyni a gwrychoedd? Gwneud eich gardd yn fwy cyfeillgar i fyd natur yw’r ffordd orau y gallwch chi helpu’r adar a’r bywyd gwyllt arall sy’n ei defnyddio, ac mae llawer o bethau syml y gallwch eu gwneud  i roi bywyd newydd i’ch gardd. Ewch i’n gwefan i gael rhagor o syniadau.

Felly beth am ymuno â’r 24,000 o bobl eraill yng Nghymru a chofnodi’r bywyd gwyllt sy’n dibynnu arnoch chi? Gallwch dderbyn rhagor o fanylion am Gwylio Adar yr Ardd isod a gallwch gofrestru i gymryd rhan a derbyn eich pecyn yn www.rspb.org.uk/birdwatch.

Gwarchodfa/ Prosiect

Dyddiad ac Amser

Digwyddiad

Cost

RSPB Conwy

21 a 22 Ionawr
11yb-3yh

Paratoi ar gyfer Gwylio Adar yr Ardd

Am ddim

RSPB Llyn Efyrnwy

22 Ionawr
11yb – 3yh

Paratoi ar gyfer Gwylio Adar yr Ardd

Am ddim

RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd

14 Ionawr
10:30yb – 12yh

Gweithdy Gwylio Adar i’r Teulu

£3 i Aelodau RSPB / £5 os nad yn aelod

RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd

18 Ionawr
10:30yb – 12:30yh

Taith Dywys Gwylio Adar yr Ardd

 

£3 i Aelodau RSPB / £5 os nad yn aelod

RSPB Ynys Lawd

21 a 22 Ionawr
11yb – 3yh

Paratoi ar gyfer Gwylio Adar yr Ardd

£3 i Aelodau RSPB / £4 os nad yn aelod

RSPB Ynys-hir

22 Ionawr
11yb – 3yh

Paratoi ar gyfer Gwylio Adar yr Ardd

£3 i Aelodau RSPB / £4 os nad yn aelod

Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd

21 Ionawr
10yb – 4yh

Gwylio Adar yr Ardd yn Fferm y Fforest

Am ddim

Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd

21 Ionawr
10yb – 4yh

Gwylio Adar yr Ardd yn Techniquest

Am ddim

Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd

22 Ionawr
10yb – 4yh

Gwylio Adar yr Ardd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Am ddim

Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd

21 Ionawr
11yb – 4yh

Gwylio Adar y Ardd yng Nghanolfan Arddio Pugh, Radur. I archebu lle ewch i www.pughsgardencentre.co.uk/workshops-events/

£6

Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd

28 Ionawr
9yb – 5yh

Gwylio Adar yr Ardd yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant, Caerdydd

Am ddim

Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd

28 Ionawr
10yb – 4yh

Gwylio Adar yr Ardd ym Mharc Bute, Caerdydd

Am ddim

Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd

29 Ionawr
10yb – 3yh

Gwylio Adar yr Ardd yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan

Am ddim