To read this blog in English, please click here




Dychmygwch hyn: mae’r wawr yn torri ac rydych chi’n deffro’n barod am ddydd newydd a’r heriau o’ch blaenau. Fodd bynnag, wrth i chi fwyta eich brecwast ni fyddwch yn clywed caneuon arferol yr adar tu allan wrth iddynt ganu eu halawon swynol. Wrth i chi fynd allan ar eich awr ginio, ni allwch fynd i’ch parc lleol ac ymlacio yn yr haul, oherwydd mae yna fyd o goncrit wedi tyfu yn ei le. Ac wrth i chi fynd adref min nos, nid ydy’r blodau hardd yn eich gardd yn blodeuo mwyach. 

Dwi ddim yn siŵr amdanoch chi, ond mae hyn yn ddarlun sy’n codi ofn arnom ni. Ydy, mae’n ddarlun llym, ond os nad ydym ni’n gwneud rhywbeth am sefyllfa’r byd naturiol o’n cwmpas, dyma beth fydd ein ffawd ni.

Os ewch chi’n ôl i 2013, efallai byddwch yn cofio lansiad adroddiad arloesol Sefyllfa Byd Natur. Roedd hwn yn gydweithrediad rhwng 25 o sefydliadau cadwraeth ac ymchwil y DU i greu asesiad o’n bywyd gwyllt brodorol. Yn ystod lansiad yr adroddiad yng Nghymru, roedd yn fraint i weld Iolo Williams yn cyflwyno araith hynod o bwerus ac angerddol lle'r oedd yn apelio at bobl Cymru i gymryd camau brys i achub byd natur.

Tair blynedd yn ddiweddarach, rydym yn awr yn lansio'r adroddiad Sefyllfa Byd Natur Cymru 2016. Ers hynny mae'r bartneriaeth wedi tyfu i dros 50 o sefydliadau ar draws y DU, a gyda’r newidiadau gwleidyddol sy’n digwydd ar hyn o bryd, mae hi’n amser mor bwysig i ni uno i amddiffyn y bywyd gwyllt gwych o'n cwmpas - gydag un o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru bellach wedi diflannu’n llwyr neu’n bron a darfod.

Gan drio rhywbeth ychydig yn wahanol, a rhoi blas o greadigrwydd celfyddydol i adroddiad gwyddonol, bydd Sefyllfa Byd Natur Cymru 2016 yn cael ei lansio mewn digwyddiad cyhoeddus arbennig ar 21 Medi yng Nghaerdydd, a'r cyfan yn rhad ac am ddim. Bydd llu o gerddorion, beirdd, artistiaid graffiti a diddanwyr syrcas yn dod â rhywogaethau mwyaf gwerthfawr byd natur yn fyw - gan ddod a thamaid o Farchnad garismatig Camden yn Llundain i Gaerdydd.

Uchod, chwith i dde: Martin Daws, Aneirin Karadog, Millimagic ag Organised Kaos

Bydd gennym farddoniaeth fyw arbennig gan feirdd Cymreig Martin Daws (Awdur Llawryfog Pobl Ifanc Cymru 2013-2016), Aneirin Karadog (Prifardd Eisteddfod Genedlaethol 2016) a rapiwr Ed Holden (aka Mr Phormula), a bydd pob un yn rhoi eu hôl troed eu hunain ar fywyd gwyllt unigryw Cymru.

Gan brofi mae Cymru yw gwlad y gân, fydd y talentog Ellie Makes Music yn perfformio repertoire arbennig o gerddoriaeth. Fydd hi'n ymuno â theulu theatrig y brain coesgoch - diolch i’r diddanwyr syrcas, Organised Kaos. Nid yw'r creadigrwydd yn dod i ben yno oherwydd bydd yr artist graffiti, Millimagic, yn cydblethu natur a chelf i gyfansoddi rhai o negeseuon pwysig am fyd natur yng Nghymru.

Uchod, chwith i dde: Ed Holden a Ellie Makes Music

Dros yr wythnos nesaf mae cymunedau, ysgolion a chithau, y cyhoedd, yn cael y cyfle i ddisgrifio yn eich geiriau eich hun 'beth mae natur ei olygu i chi'. Byddwch yn gallu ysgrifennu eich negeseuon personol eich hun ar nifer o gynfasau mawr a fydd yn teithio o amgylch y wlad - pob un yn darlunio rhai o'r rhywogaethau sydd o dan fygythiad yng Nghymru. Mae'r lleoliadau yn cynnwys:

Lleoliad

Dyddiad

Canolfan Siopa St Elli, Llanelli

15 Medi

Canolfan Siopa Deiniol, Bangor

16 Medi

Merlin’s Walk, Caerfyrddin

18 Medi

Canolfan Siopa Capitol, Caerdydd

19 Medi

Undeb Myfyrwyr Caerdydd

19 Medi

Amgueddfa Aberystwyth

17 Medi

Parc Wledig Alyn, Gwersyllt, Wrecsam

17 Medi

Canolfan Siopa Dewi Sant, Caerdydd

21 Medi

Natur yw un o'n rhoddion mwyaf gwerthfawr ac mae'n drist i feddwl bod llai o fywyd gwyllt heddiw i ysbrydoli plant yn y blynyddoedd i ddod. Nid ydym am i’r darlun tywyll uchod ddod yn wir yn ystod eu bywydau. Fodd bynnag, rydym yn enwog fel cenedl angerddol yng Nghymru a thrwy weithio gyda'n gilydd gallwn ddefnyddio'r angerdd yma i wyrdroi ffawd ein bywyd gwyllt - gan wneud y dyfodol gymaint mwy disglair i genedlaethau’r dyfodol.

Gallwch ddilyn yr holl gyffro lansiad Sefyllfa Byd Natur Cymru yn fyw ar Twitter @RSPBCymru a Facebook RSPBCymru, gan ddefnyddio #SefyllfaBydNatur / #StateOfNature.


Bydd y lansiad yn cael ei gynnal ddydd Mercher 21 Medi ar Yr Aes yng Nghaerdydd. Bydd y perfformiadau yn digwydd rhwng 12-2yh ac yna eto am 5-7yh. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!



Uchod: madfall y tywod, ystlym pedol lleiaf a'r dyfrgi - i gyd o dan fygythiad yng Nghymru