I ddarllen y blog yma yn Saesneg, cliciwch yma os gwelwch yn dda.Sesiynau allgymorth rhad ac am ddim i bob ysgol gynradd
Mae RSPB Cymru yn awyddus i barhau i helpu ysgolion cynradd Abertawe i wneud tir eu hysgol yn fwy “gwyrdd” ar gyfer natur drwy ei broject Rhoi Cartref i Fyd Natur yn Abertawe.
Hyd yma, mae 2736 o blant wedi darganfod mwy am y bywyd gwyllt anhygoel sydd o’u cwmpas drwy ein sesiynau allgyorth rhad ac am ddim i ysgolion, a gaiff eu hariannu gan ardoll bagiau siopa Aldi, gyda chefnogaeth Dinas a Sir Abertawe.
Mae bron i 30 o ysgolion cynradd wedi cymryd rhan yn ein sesiynau natur, pob un dan arweiniad staff a gwirfoddolwyr yr RSPB, drwy gymryd rhan un ai mewn Biobilts neu sesiwn Gwylio Adar yr Ysgol neu ymarfer mapio i ddarganfod cartrefi i fyd natur yn nhiroedd eu hysgol.
Mae’r prosiect yn parhau yn Abertawe yn ystod y flwyddyn academaidd hon ac yn anelu at gysylltu hyd yn oed mwy o blant â byd natur. Mae sesiynau ar gael i holl ysgolion cynradd Abertawe, yn parhau am oddeutu 90 munud ac yn rhad ac am ddim. Dyma fwy o wybodaeth am y sesiynau...
Gwylio Adar yr YsgolCyfle i’ch dosbarth chi gymryd rhan yn sesiwn gwylio adar fwyaf a hynaf Ewrop; prosiect gwyddoniaeth enfawr i ddinasyddion.
Yn nhymor yr hydref, gan ddefnyddio ein llawlyfrau ID a’n ysbienddrychau, byddwn yn gweithio gyda’ch dosbarth i ddarganfod, adnabod a chofnodi’r adar o gwmpas eich ysgol. Gyda’n cymorth arbenigol ni bydd eich ysgol yn barod i gymryd rhan yn annibynnol yn ddigwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol yn ystod tymor y gwanwyn.
Yn ystod misoedd Ionawr a Chwefror gallwn gyflwyno’r sesiwn hon i chi a dangos i chi sut i gyflwyno canlyniadau eich ysgol ar-lein fel rhan o arolwg blynyddol yr RSPB. Llun gan Eleanor Bentall
BioblitsRydym yn eithaf sicr bod eich ysgol eisoes yn rhoi cartref i fyd natur, ond i beth ac ymhle? Bydd ein sesiwn Bioblits yn eich helpu chi i ddarganfod yr ateb.
Byddwn yn dod â phob dim sydd ei angen arnoch i helpu eich disgyblion i gynnal Bioblits ar dir eich ysgol. Gan ddefnyddio ein rhwydi ysgubo, chwyddwydrau ac offer eraill a ddefnyddir gan dditectifs byd natur, byddwn yn helpu eich disgyblion i chwilio am blanhigion ac anifeiliaid dan bob craig, llwyn a mat drws.
Drwy gynnal Bioblits gallwch ddarganfod canlyniadau rhyfeddol a helpu eich disgyblion i archwilio’r micro-gynefinoedd o gwmpas eich ysgol i ddarganfod ac adnabod planhigion ac anifeiliaid sydd wedi addasu i wahanol amgylcheddau.
Mae ein sesiwn Bioblits ar gael drwy gydol y flwyddyn ac yn gweithio yn unrhyw dymor. Yn yr hydref fe allem ganfod mwy o anifeiliaid yn rhag yr oerni ac yn yr haf bydd anifeiliaid yn fwy bywiog, gan ein cadw ni’n brysur!
Dyma rai o’r adnoddau ar gael ar gyfer y sesiwn:
http://www.rspb.org.uk/forprofessionals/teachers/resources/school-grounds/index.aspx
Rhoi Cartref i Fyd NaturPe gallech chi greu map cynefinoedd o’ch ysgol chi, sut fyddai’n edrych? Mae ein sesiwn Rhoi Cartref i Fyd Natur wedi’i llunio i helpu eich disgyblion i fapio eich ysgol ar gyfer natur; adnabod cynefinoedd a mannau ar gyfer natur sydd eisoes yn bodoli a chanfod cyfleoedd i greu mwy. Gyda chymorth cerdyn sgorio, gall eich disgyblion roi sgôr i’ch ysgol am fywyd gwyllt a gyda’n gilydd gallwn benderfynu sut ac ymhle y gallem wneud ychydig mwy o le ar gyfer natur o gwmpas eich ysgol.
Wedi i’ch disgyblion nodi ychydig o bethau yr hoffent eu cyflawni byddwn yn cydweithio â chi i rannu canllawiau a llawer o bethau hawdd i’w gwneud i’ch helpu i wireddu’r cynlluniau yma a sicrhau y bydd eich ysgol yn fwy cyfeillgar i fyd natur. http://www.rspb.org.uk/forprofessionals/teachers/resources/school-grounds/index.aspx
Os oes gennych ddiddordeb mewn manteisio ar y cyfle gwych hwn ac yr hoffech archebu sesiwn ar gyfer eich disgyblion, cysylltwch â Swyddog Prosiect Allgymorth RSPB Cymru, Sarah Reed, ar 01792 633801 / 07999 892380 neu sarah.reed@rspb.org.uk. Llun gan RSPB Images