I ddarllen y blog yma yn Saesneg, cliciwch yma os gwelwch yn dda.
Fel rhan o’r bartneriaeth Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd, mae RSPB Cymru yn awyddus i barhau helpu ysgolion a safleoedd blynyddoedd cynnar i gysylltu plant â byd natur trwy ein sesiynau allgymorth rhad ac am ddim. Wedi ein hariannu gan y Gronfa Loteri Fawr ac Aldi ac mewn partneriaeth gyda Chyngor Caerdydd a Buglife Cymru, rydym yn barod wedi helpu bron i 10,000 o blant i wario mwy o amser gyda natur.
Mae ein sesiynau, ar gael i bob ysgol gynradd a safle blynyddoedd cynnar yng Nghaerdydd, yn para 60 – 90 munud ac yn helpu eich disgyblion ddysgu am y bywyd gwyllt y tu allan i ffenestri eu dosbarth, ac ystyried sut i wneud eu hysgol yn fwy cyfeillgar i fyd natur.
Cyflwynir pob un o’n sesiynau rhad ac am ddim gan ein staff a gwirfoddolwyr gwybodus. Dros gyfnod y flwyddyn addysgol hon cyflwynir un sesiwn i bob dosbarth i helpu eich disgyblion ddysgu mwy am y bywyd gwyllt o’u cwmpas a’u hannog i wneud mwy dros fyd natur nawr ac yn y dyfodol.
Cliciwch yma i weld trosolwg o’r sesiynau sydd wedi’u seilio ar y cwricwlwm.
Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu unrhyw un o’r sesiynau yma cysylltwch â Sarah Mitchell ar: 02920 353 271 / sarah.mitchell@rspb.org.uk