To read this blog in English please click here.

Mae Cymru’n adnabyddus am lu o bethau, o gopaon hardd Eryri i draethau hyfryd sir Benfro. Fodd bynnag, mae Cymru hefyd yn enwog am un peth arall, a hynny yw canu. Yn cael ei galw’n ‘wlad y gân’, mae cantorion Cymru’n enwog ledled y byd, ond bob bore o fis Mawrth i fis Gorffennaf gallwch fwynhau perfformiad unigryw gan rai o leisiau mwyaf arbennig byd natur – côr y wîg.

Does dim un alaw yn debyg i gôr y wîg, lle mae adar mwyaf swynol Cymru yn cynhesu eu lleisiau ar gyfer cyngerdd gorau’r byd.  Felly, wrth i’r adar ganu o’r galon ar gychwyn y tymor nythu, rydym ni'n egluro ‘pwy ydy pwy’ yn y côr cyn iddyn nhw berfformio’r symffoni rymus.

Ar adegau mae’n ymddangos bod ein hadar yn cystadlu i gael eu clywed ond wrth ymarfer gallwn ddysgu i wahaniaethu rhwng y lleisiau soprano a’r tenoriaid, ac mae’r rhaglen fel a ganlyn: act un - y robin goch a llwyd y gwrych; act dau - y fwyalchen, y fronfraith a’r ehedydd; act tri - siff-siaff, ji-binc, ysguthan, a’r durtur dorchog; act pedwar - y titw tomos las, y titw cynffon-hir, y titw mawr, y dryw eurben a golfan y mynydd, yn gorffen gyda pherfformiad unigol gan yr eos.

Ymysg y cyntaf i ganu mae llwyd y gwrych a’r robin goch: i glywed act un bydd angen i chi fod allan yn yr awyr agored yn gynnar oherwydd maen nhw’n dechrau canu rhyw awr cyn iddi wawrio.

Yn fuan ar eu hôl mae’r fwyalchen a’r fronfraith oherwydd, mae’n debyg, bod y ddaear yn fwy llaith yn y bore felly mae pryfed genwair yn fwy bywiog gan fod y ddaear yn fwy meddal.

Yn olaf, ac yn cyfrannu at yr uchafbwynt, mae drywod, titwod a thelorion, gyda galwad bychan bach y dryw eurben hefyd ar y llwyfan.  Yn ymuno’n hwyr â’r côr, mae’r adar yma’n bwyta pryfed ac felly o bosib yn fwy sensitif i oerni’r wawr.

O ran y perfformiad unigol, dim ond yr eos gwrywaidd sy’n canu ar ei ben ei hun ac mae’n well ganddo ganu’n ystod y nos.  Dydy eosiaid ddim yn gallu dibynnu ar gliwiau gweledol i ddenu cymar felly mae eu cân yn arbennig o bwysig ac mae’n rhaid iddyn nhw sicrhau nad yw eu cân yn cael ei boddi gan yr holl leisiau eraill.

Wrth wrando ar gôr y wîg i ddechrau, efallai ei fod yn swnio fel pe baen nhw i gyd yn canu ar draws ei gilydd, ond mewn gwirionedd mae’r cantorion yn gwybod yn iawn pryd i ganu eu cân.  Wrth wrando’n rheolaidd byddwch yn dechrau adnabod rhywogaethau unigol penodol, ond mae’n braf hefyd gallu eistedd yn ôl a mwynhau’r gân gyfan.

Os oes gennych awydd dysgu mwy am bwy sy’n canu yna dyma eich cyfle, hyd yn oes os na fyddwch yn adnabod mwy na llond dwrn – dyma’r darn o gerddoriaeth mwyaf melodaidd, gwreiddiol a naturiol y cewch wrando arno byth ac yn fwy na hynny, mae’n rhad ac am ddim ac yn digwydd bob dydd!”

Mae adar yn canu’n uchel gyda’r wawr oherwydd mae’n adeg dda o’r dydd iddyn nhw aros yn eu hunfan a chanolbwyntio ar ddenu cymar.  Gyda llai o sŵn cefndir yn gynnar yn y bore, gellir clywed eu cân hyd at ugain gwaith ymhellach.

Fel y byddai unrhyw gôr meibion Cymreig yn dweud wrthych, mae angen egni i ganu. Felly os ydych chi’n darparu bwyd, dŵr a chysgod i adar eich gardd bydd hyn yn helpu i wneud eu lleisiau hyd yn oed yn gryfach. Os ydych yn ansicr pa fath o fwyd a chysgod y mae’r adar eu hangen yna mae digon o awgrymiadau ar gael ar wefan yr RSPB www.rspb.org.uk/homes. Felly bore fory, gwnewch yn siwr fod y cloc larwm ymlaen ychydig yn gynharach nag arfer, a deffrwch i gôr hollol unigryw.