I ddathlu lansiad Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd byddwn yn adfywio hen welîs gyda phlanhigion ledled y ddinas - ein gobaith yw ysbrydoli ac annog cymunedau i blannu nifer fawr o welîs dros fywyd gwyllt. Byddwn yn creu cyfoeth o liw ar gyfer bywyd gwyllt yn ein gardd Cartref i Fyd Natur yn Sioe RHS Caerdydd ac yn gwahodd plant a theuluoedd i gymryd rhan yn ein Bioblits Mawr yr Ardd a’n helpu i greu Gwesty Chwilod Mawr.  Bydd cyfle i ysgol neu grŵp cymunedol ennill hwn.

Byddem wrth ein bodd pe baech yn ymuno â ni, felly nodwch y dyddiad os gwelwch yn dda.  Cynhelir ein dathliad rhwng 11 – 19 Ebrill.

Byddwn yn rhannu mwy o fanylion cyn bo hir i’ch helpu chi i ddewis pa ran o’n dathliad ledled y ddinas yr hoffech gymryd rhan ynddo – o gyfleoedd i fynd yn wyllt a baeddu eich dwylo, dysgu mwy am y project neu i fwynhau lluniaeth a saffari gardd fywyd gwyllt yn Sioe RHS...gwyliwch y gofod hwn!

Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd                                    

Project blaenllaw RSPB Cymru yw Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd, a ariennir gan Tesco drwy gyfrwng cynllun talu am fagiau plastig Llywodraeth Cymru.  Gweithredir y project mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Caerdydd.  

Nod y project yw annog miloedd o bobl ifanc a’u teuluoedd ledled Caerdydd i dreulio mwy o amser, a hynny’n fwy rheolaidd, yn yr awyr agored, ac annog bywyd gwyllt i’w gerddi, tiroedd yr ysgol, parciau lleol a mannau gwyrdd.

Yn yr adroddiad arloesol Sefyllfa Byd Natur (2013), a gynhyrchwyd gan yr RSPB a 25 o gyrff bywyd gwyllt eraill, datgelwyd bod natur mewn perygl; mae 60% o rywogaethau’r DU fu unwaith yn gyffredin, o gacwn i loÿnnod byw, wedi prinhau yn yr 50 mlynedd diwethaf ac mae cysylltiad plant â byd natur yn gwanhau fwyfwy.

Mae cenhadaeth yr RSPB i greu byd sy’n gyfoethocach o ran byd natur yn arbennig o berthnasol yng Nghymru lle nad oes gan ond un o bob wyth plentyn gysylltiad ystyrlon â byd natur.

Drwy gyfrwng sesiynau am ddim mewn ysgolion gynradd yng Nghaerdydd, a rhaglen ledled y ddinas o ddigwyddiadau a gweithgareddau am ddim i deuluoedd, nod Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd yw sicrhau bod llyffantod, dail yr hydref a phengliniau brwnt yn rhan unwaith eto o blentyndod, a helpu i ysbrydoli plant i warchod bywyd gwyllt anhygoel eu dinas. 

Cliciwch yma i ddarllen yr uchod yn Saesneg