To read this in English click here
Dywedwch wrth Lywodraeth Cymru osod camau priodol dros fyd natur yn ei gynllun adfer
Gallwch wneud hyn drwy yrru llythyr mewn ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus sydd yn agored yr eiliad hon.
Mae’r Gweinidog dros Adnoddau Naturiol, Carl Sargeant, a’i swyddogion yn Llywodraeth Cymru’n datblygu Cynllun Adfer Natur a deddfwriaeth newydd, Mesur yr Amgylchedd (Cymru). Fe all y cynllun polisi a’r gyfraith newydd fynd ymhell tuag at achub byd natur. Ond, mae problem yn bodoli.
Nid oes digon o weithredu yn y cynllun i ateb anghenion byd natur.
Yn rhyfedd iawn, nid yw’r Cynllun Adfer Natur yn sôn llawer ynglŷn â sut yr ydym yn mynd i wireddu adferiad byd natur. Ychydig iawn o weithredu sy’n cael ei gynnwys yn y cynllun. Mae’n cynnwys llawer o eiriau da, ond nid yw’n dangos yr ymrwymiad i weithredu neu fynediad at nawdd a fydd yn gwneud y gwahaniaeth sydd ei angen ar fyd natur.
Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei obaith dros adferiad byd natur gyda syniad o’r enw “rheolaeth adnoddau naturiol”. Mae hwn yn cynnig cyfuno cynlluniau a pholisïau er mwyn dod â’r ffyrdd gwahanol y mae pobl yn gweithio yn amgylchedd Cymru at ei gilydd, o ffermwyr i bysgotwyr a chadwraethwyr i weithwyr adeiladu. Mae’r dull yma o weithredu cyfunol yn gwneud synnwyr ac yn angenrheidiol. Ond mae’r Llywodraeth yn camddeall y nod os ydynt yn canolbwyntio ar broses yn hytrach nag ar weithredu dros fyd natur yn ein caeau, gwlyptiroedd, moroedd a mynyddoedd. Ar ei ben ei hun, ni fydd “rheolaeth adnoddau naturiol” Llywodraeth Cymru’n ddigon i ddod â’n bywyd gwyllt yn ôl.
I sicrhau adferiad byd natur, mae angen arweiniad cryf gan y Llywodraeth:
Helpwch i osod camau priodol o fewn y Cynllun Adfer Natur.
Mae gan yr RSPB dros 50,000 o aelodau yng Nghymru ac mae miloedd mwy’n caru byd natur. Rydych yn un o ddegau o filoedd o bobl Cymru sy’n pryderu’n fawr am ein hamgylchedd naturiol, ac mae eich llais yn bwysig. Ymunwch â ni i godi ein lleisiau yn uchel a chlir dros adar a bywyd gwyllt Cymru drwy ddweud wrth Lywodraeth Cymru gynnwys gweithredu dros fyd natur yn y Cynllun Adfer Natur.
E-bostiwch neu postiwch eich llythyr at Lywodraeth Cymru erbyn dydd Mercher 3 Rhagfyr i biodiversity@wales.gsi.gov.uk neu Gangen Bioamrywiaeth a Chadwraeth Natur, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR.
I’ch helpu chi, dyma bedwar pwynt yr hoffech efallai eu cynnwys yn eich llythyr:
Gallwch ein helpu i fonitro cynnydd ein hymgyrch - e-bostiwch neu bostiwch gopi o’ch llythyr at Heather Galliford, Swyddog Cadwraeth (Polisi ac Ymgyrchoedd) ar campaigns.wales@rspb.org.uk neu at RSPB Cymru, Tŷ Sutherland, Pontycastell, Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Caerdydd, CF11 9AB.
I dderbyn mwy o wybodaeth am ein hymgyrchoedd a sut i gymryd rhan ewch i – http://www.rspb.org.uk/joinandhelp/campaignwithus/
Diolch i chi am ymuno â ni i wneud gwahaniaeth ac i godi llais dros fyd natur.