Cysylltiadau Conwy: Gwella RSPB Conwy ar gyfer Pobl a NaturBydd ymwelwyr RSPB Conwy yn cael llawer mwy nag erioed am eu hymweliad yn fuan. Ar ôl ambell i newyddion da gan wahanol bartneriaid ariannol, yn cynnwys y project Cymunedau a Natur, bydd gwaith yn cychwyn ar drawsnewid rhai ardaloedd o’r warchodfa er mwyn gwella cysylltiad rhwng pobl a bywyd gwyllt. Bydd y project yn cynnig cyfleon newydd, cyffrous ar gyfer ymwelwyr gan wella’r gofod ar gyfer pawb, drwy gydol y flwyddyn. Hoffai staff a gwirfoddolwyr yr RSPB roi gwybodaeth ichi yn gyson am y datblygiadau cyffrous hyn drwy gyhoeddi bwletin rheolaidd dros y 18 mis nesaf. Cliciwch yma er mwyn cael mynediad i’r bwletin (1MB, pdf).
Mae Cysylltiadau Conwy yn fenter a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Llywodraeth Cymru, ac mae’n rhan o brosiect strategol Cymunedau a Natur Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Hoffai RSPB Cymru ddiolch i'r rheini sydd wedi cyfrannu tuag at gefnogi gwarchodfa natur ac adnoddau ymwelwyr RSPB Conwy, gan gynnwys Ystad y Goron, Amgylchedd Cymru, Ymddiriedolaeth Cemlyn Jones, Cyngor Tref Conwy a Grŵp Cefnogi RSPB Conwy. Mae RSPB Cymru yn parhau i gasglu arian tuag at gronfa Cysylltiadau Conwy. Os hoffech chi gymryd rhan i gasglu arian, gwirfoddoli gyda RSPB, neu fod ynghlwm â'r project mewn unrhyw ffordd, cysylltwch gyda ni: conwy@rspb.org.uk
Julian HughesSite Manager, Conwy