English version available here
Ar ôl llwyddiant mawr yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae Rhwydwaith Gwirfoddolwyr Rhywogaethau’r RSPB (SVN) wedi ehangu i Gymru a'r Alban! Mae'r prosiect cyffrous hwn, diolch i chwaraewyr y People’s Postcode Lottery, yn cefnogi prosiectau adfer rhywogaethau oddi ar warchodfeydd. Drwy adeiladu timau gwirfoddoli amrywiol, profiadol, hunangynhaliol, nod SVN yw creu gwaddol ar gyfer y prosiectau hyn, fel y gallant barhau ymhell i'r dyfodol. Gall unrhyw un fod yn rhan o'r rhwydwaith hwn, gan weithio ar y rheng flaen i warchod byd natur!
Ein Prosiectau
I ddechrau, mae SVN yn cefnogi tri phrosiect yng Ngogledd Cymru: adfer y Gylfinir a’r Grugiar Ddu ar Rosydd Gogledd Cymru, ac adfer y Frân Goesgoch yn Eryri, Llŷn ac Ynys Môn.
Gweithredu: Y Gylfinir
Roedd y Gylfinir yn olygfa gyfarwydd ledled Cymru ar un pryd, gyda’i alwad nodedig, fyrlymus. Yn anffodus, mae'r Gylfinir o dan fygythiad, ac amcangyfrifir y bydd wedi diflannu’n gyfan gwbl yng Nghymru erbyn 2033, heb gamau cadwraeth pwrpasol.
Dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae prosiect y Gylfinir mewn Argyfwng wedi bod yn cyflawni’r camau cadwraeth hyn ledled y DU, diolch i gyllid EU-LIFE.
Mae ardal y prosiect yng Nghymru yn cwmpasu dau o’r 12 o Ardaloedd Gylfinir Pwysig yng Nghymru: ystad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Ysbyty Ifan ac ardal fawr o rostir, sy’n gyfarwydd fel Mynydd Hiraethog.
Ers dechrau’r prosiect, mae tîm Cri’r Gylfinir, gan gynnwys dros 25 o wirfoddolwyr wedi gwneud llawer iawn o waith amrywiol i warchod ac adennill y rhywogaeth fregus hon. Bob gwanwyn, mae'r tîm wedi cynnal arolwg o gynefinoedd y Gylfinir, darganfod nythod a helpu i adeiladu ffensys dros dro i warchod y nythaid rhag mamaliaid mawr. Mae prosiect SVN yn cefnogi’r tîm anhygoel hwn wrth iddynt barhau â’u gwaith adfer eleni.
Adfer y Grugiar Ddu
Mae’r Grugiar Ddu yn aderyn trawiadol, gyda’r gwrywod yn enwog am eu hymddygiad paru yn ystod y gwanwyn. Yn ystod yr arddangosfa baru hon, maen nhw'n ymestyn plu eu cynffonnau gwyn, yn rhedeg ac yn sgrechian i greu argraff ar y menywod. Arferai’r Grugiar Ddu fod yn niferus mewn rhai ardaloedd yng nghanolbarth a gogledd Cymru, ond mae wedi wynebu dirywiad aruthrol.
Dechreuodd Prosiect Adfer Grugiar Ddu yr RSPB yn y 1990au, gan weithio ochr yn ochr â thirfeddianwyr a chymunedau lleol i helpu i adfer cynefin y Grugiar Ddu.
Fel rhan o’r prosiect, bob gwanwyn, mae’r RSPB ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru a Thirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, yn mentro i rostir Gogledd Cymru yn y bore bach i chwilio am y Grugiar Ddu sy’n paru. Mae’r arolygon hollbwysig hyn i ‘Gyfri’r Grugiar Ddu’ yn helpu i amcangyfrif niferoedd yr aderyn trawiadol hwn, sydd hefyd yn gostwng.
Mae eleni’n arbennig. Rydyn ni wedi recriwtio tîm o wirfoddolwyr ychwanegol i gymryd rhan yn yr arolygon hollbwysig hyn, diolch i’r Rhwydwaith Gwirfoddolwyr Rhywogaethau!
Gweithredu ar Gadwraeth: Y Frân Goesgoch
Mae Cymru yn gartref i’r mwyafrif o Frain Coesgoch yn y DU (79%). Mae angen glaswelltir byr, wedi'i bori ar Frain Coesgoch, lle maen nhw’n cloddio am infertebratau yn y pridd. Mae'r cynefin hwn yn prinhau, yn bennaf oherwydd newidiadau mewn defnydd tir a gorchudd tir.
Mae Rhaglen Adfer Brain Coesgoch Gogledd-orllewin Cymru yn gweithio gyda thirfeddianwyr a phartneriaid i adfer a chadw’r cynefin hanfodol hwn. Mae cyfrif a monitro'r boblogaeth adar hefyd yn bwysig i sefydlu lefel sylfaenol poblogaethau bridio sy’n bodoli’n barod ac i ddeall tueddiadau cyfredol a pharhaus. Mae SVN yn cefnogi'r prosiect hwn drwy adeiladu rhwydwaith o wirfoddolwyr i wneud gwaith arolygu, fel cyfrif adar, canfod nythod, monitro a gwarchod.
Mae’r Frân Goesgoch hefyd yn rhywogaeth darged ar gyfer Natur am Byth, rhaglen gadwraeth genedlaethol ar gyfer rhywogaethau yng Nghymru, y mae SVN hefyd yn ei chefnogi.
Sut i gymryd rhan
Os ydych chi'n teimlo eich bod wedi'ch ysbrydoli ac yr hoffech chi gymryd rhan mewn prosiectau adfer rhywogaethau neu unrhyw rolau gwirfoddoli eraill, ewch i dudalen Cyfleoedd Gwirfoddoli’r RSPB.
Os na allwch chi ddod o hyd i'r math o rôl wirfoddoli rydych chi'n chwilio amdani o'n cyfleoedd a restrir, cysylltwch â ni fel y gallwn eich helpu i ddod o hyd i'r rôl iawn i chi! Gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol yn SpeciesVolunteerNetwork@rspb.org.uk.