Sut y gall rhywogaethau yng Nghymru elwa o osod targedau uchelgeisiol ar gyfer bioamrywiaeth?

English version available here

Eleni, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil Egwyddorion Amgylcheddol, Llywodraethiant a Bioamrywiaeth i'r Senedd. Bydd gan y Bil nifer o ddibenion pwysig o ran yr argyfwng natur, gan gynnwys cyflwyno targedau statudol ar gyfer adfer bioamrywiaeth. Fel y nodwyd yn adroddiad diweddaraf State of Nature, mae 1 o bob 6 rhywogaeth yng Nghymru bellach dan fygythiad, ac rydym wedi gweld gostyngiad o 20% yn ein bywyd gwyllt ers 1994. Mae'n rhaid cymryd camau sylweddol.  

Wrth ystyried strategaethau ar gyfer atal a gwrthdroi'r dirywiad a welwn yn ein natur, mae gan dargedau cyfreithiol rwymol rôl allweddol. Byddant yn ei gwneud yn ofynnol i'r llywodraeth, awdurdodau lleol a nifer o gyrff eraill ddiogelu ein hamgylchedd naturiol, gan greu atebolrwydd dros gyflawni yn erbyn ymrwymiadau byd-eang ar gyfer 2030 a 2050. 

Rhywogaethau yw blociau adeiladu bioamrywiaeth, ac mae'r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang yn galw ar lywodraethau i atal difodiant rhywogaethau a achosir gan bobl, ac i adfer y rhywogaethau gwyllt brodorol niferus i lefelau iach a gwydn. Er mwyn cyflawni hyn bydd angen gweithredu systemau ffermio a chynllunio sy'n gyfeillgar i natur, rheoli ardaloedd gwarchodedig yn well, ac adfer cynefinoedd ehangach, gyda rhaglenni wedi'u targedu ar gyfer rhywogaethau sydd mewn perygl arbennig.  

Llwyddiant wrth osod targedau 

Er bod y darlun cyffredinol o fioamrywiaeth yn y DU yn dangos dirywiad difrifol, mae yna straeon o lwyddiant lle mae rhywogaethau wedi cael cymorth i adfer - dwy enghraifft allweddol yw Aderyn y Bwn a Bras Ffrainc.  

Ar un adeg roedd adar y bwn yn gyffredin mewn gwelyau cyrs ar dir isel, ond cawsant eu gyrru i ddifodiant fel aderyn bridio yn y DU yn yr 1880au yn sgil hela a draenio tir at ddefnydd amaethyddol. Daethant yn ôl ohonynt eu hunain, ond bu gostyngiad pellach, gyda dim ond 11 o wrywod wedi’u clywed ar arolygon yn 1997. Dangosodd ymchwil fod colli cynefinoedd a phrinder bwyd yn ffactorau allweddol oedd yn gyfrifol am y dirywiad. Ar ôl canfod y ffactorau pwysig, cymerodd yr RSPB a'i phartneriaid gamau, wedi’u gyrru gan dargedau penodol yn seiliedig ar ganlyniadau - y nod tymor hir oedd cyrraedd 100 o wrywod erbyn 2020. Cafodd y cynefin a fodolai eisoes ei adfer, a chrëwyd gwelyau cyrs newydd. Rhagorwyd ar y targed, a chyfrwyd 234 o wrywod yng Nghymru a Lloegr yn 2023, ac elwodd nifer o rywogaethau eraill o’r gwelyau cyrs a grëwyd yn sgil y gwaith hefyd. 

Ar un adeg roedd Breision Ffrainc yn gyffredin ar draws Cymru a de Lloegr, ond dim ond 118 pâr oedd ar ôl yn 1989, a’r rheini bron i gyd yn ne Dyfnaint. Fel adar tir fferm, effeithiwyd ar yr adar yn sgil dwysáu mewn amaethyddiaeth a oedd yn golygu bod llai o fwyd ar gael dros y gaeaf. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, talwyd ffermwyr (trwy'r Cynllun Stiwardiaeth Cefn Gwlad) i adael sofl haidd heb ei drin ar eu ffermydd dros y gaeaf, gan ddarparu ffynhonnell o hadau i'r adar bach hyn. Un o’r camau cadarnhaol eraill a gymerwyd oedd gadael gwrychoedd heb eu tocio fel bod mwy o safleoedd nythu ar gael. Erbyn hyn mae dros 1000 o barau o Freision Ffrainc yn ne-orllewin Lloegr. 

Yn y ddau achos hyn, arweiniodd yr RSPB ar waith ymchwil a chadwraeth i ddeall achosion y dirywiad a sefydlwyd cynlluniau rheoli i wrthsefyll eu heffeithiau. Roedd y cynlluniau hyn yn cynnwys targedau clir, o fewn amser penodol ar gyfer adfer rhywogaethau. Gyda'r targedau cywir wedi'u gosod, a chamau gweithredu ar y cyd, mae'n bosibl dod â rhywogaethau’n ôl i lefelau iach. 

Rhywogaethau eiconig ar y dibyn 

Mae nifer o rywogaethau eraill yn dal i brinhau, er bod gwaith yn mynd rhagddo i nodi a gweithredu mesurau a fydd yn mynd i'r afael â’r ffactorau sy’n gyfrifol am y gostyngiad. Dwy rywogaeth eiconig lle mae’r niferoedd yn gostwng yn gyflym yw’r gylfinir a’r wennol ddu.  

Mae gwenoliaid duon yn rhywogaeth a welir yng Nghymru yn yr haf. Fe’u gwelir yn ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi, ac maent yn adnabyddus am eu sgrech nodedig. Fodd bynnag, bu gostyngiad o 76% mewn niferoedd ers 1995. Mae gwenoliaid duon yn dibynnu ar gilfachau mewn adeiladau a waliau i nythu ynddynt, ond yn sgil gwelliannau mewn safonau adeiladu ac inswleiddio, mae’r llefydd hyn yn mynd yn brin. Er y gellir unioni hyn trwy ddefnyddio 'Brics wenoliaid duon' (brics gyda cheudod y tu mewn ar gyfer gwenoliaid duon sy'n nythu) a gosod blychau nythu ar adeiladau presennol, nid oes digon o'r rhain drwy’r wlad eto i gael effaith barhaol. Yn ogystal â hyn, mae gwenoliaid duon yn dibynnu ar bryfed sy’n hedfan fel ffynhonnell fwyd. Bydd systemau ffermio sy'n gyfeillgar i natur a mannau gwyllt mewn ardaloedd trefol yn cefnogi poblogaethau infertebratau, ac yn sgil hynny, y Wennol Ddu. 

Mae'r Gylfinir ar restr goch Adar o Bryder Cadwraethol yng  Nghymru. Gallai fod ar fin difodiant fel rhywogaeth fridio yng Nghymru o fewn y degawd nesaf os na chymerir camau. Mae Gylfinir Cymru yn bartneriaeth sy'n gweithio i atal hyn a sefydlu o leiaf chwe phoblogaeth fridio sefydlog erbyn 2031. Mae ganddo bedwar nod allweddol, gan gynnwys cefnogi ffermwyr a rheolwyr tir i ddarparu cynefin i’r Gylfinir, a gwrthdroi’r ffactorau presennol sy’n gyfrifol am gynhyrchiant isel. Mae targedau clir, o fewn amser penodol sy'n seiliedig ar ganlyniadau  fel y rhain yn hollbwysig wrth lunio a symbylu camau gweithredu, ac rydym yn gobeithio y bydd targedau uchelgeisiol tebyg yn cael eu gosod gan y Llywodraeth. 

Edrych ymlaen at y Bil 

Mae gosod targedau, gyda nod terfynol clir a cherrig milltir ar hyd y daith yn fodd i fesur cynnydd, a dathlu llwyddiannau. Er mwyn eu cyflawni mae angen cynllun clir yn ei le ar gyfer cymryd camau. Mae'r Bil Egwyddorion Amgylcheddol, Llywodraethiant a Bioamrywiaeth sydd yn yr arfaeth yn rhoi'r cyfle perffaith i osod targedau uchelgeisiol i sbarduno newid ar draws pob sector. Mae angen i ni weld targed cyffredin i sbarduno’r gwaith o adfer rhywogaethau ledled Cymru, gyda chynllun cyflawni sy’n cefnogi cynlluniau adfer wedi'u targedu a chamau gweithredu er budd ein rhywogaethau mwyaf bregus. O’i wneud yn dda, bydd hyn yn rhoi’r siawns gorau i natur Cymru ffynnu - ni allwn adael i’r cyfle hwn fynd heibio. 

(Photo: Alamy)