To read this blog in English please click here

Ddiwedd mis Mehefin, bydd tir y fferm yn cael ei weddnewid wrth i lu o fywyd gwyllt gyrraedd a gadael. Bydd llinosod y mynydd yn sgrialu drwy’r llystyfiant yn chwilio am doreth o hadau i'w cywion. Bydd gwenoliaid yn dangos eu hunain drwy wibio a phlymio drwy'r awyr. Tra bydd y gylfiniriaid yn paratoi i ddychwelyd i'r glannau arfordirol tua diwedd mis Gorffennaf.

Gylfinir. Llun: Andy Hay, rspb-images.com

Ddiwedd mis Gorffennaf, byddwn ni hefyd yn dathlu Sioe Frenhinol Cymru, lle bydd ffermwyr, teuluoedd, bwyd a hwyl i gyd yn dod at ei gilydd. Bydd RSPB Cymru yno hefyd, o 24-27 Gorffennaf, i’ch croesawu chi i’n stondin a fydd wedi’i llenwi â blodau gwyllt.

Sioe Frenhinol Cymru yw un o’r sioeau amaethyddol mwyaf yn Ewrop. Mae hi’n denu pobl o bob cwr o'r DU i faes sioe Llanelwedd i fwynhau gŵyl llawn cystadlaethau, dathliadau a sbort sy'n para pedwar diwrnod. Bydd digon o weithgareddau i deuluoedd ac i blant yn ein stondin; o chwilota am fywyd gwyllt mewn pyllau, i ddatrys dirgelion fel ditectif bywyd gwyllt - hela am fwydod a chanfod beth mae tylluanod yn ei fwyta ar y fferm.

Bydd gennym ardal wedi’i threfnu fel caffi i'r rheini sydd am orffwyso wrth fwynhau panad o de a chacen gri. Yn y cyfamser, bydd ein staff ymroddedig wrth law i siarad â chi am y cysylltiadau sydd rhwng y bwyd ar eich platiau, y ffermwyr i lawr y ffordd, y gwartheg a'r bywyd gwyllt yn ein cefn gwlad. Byddant hefyd yn rhoi gwybod sut y gallwn ni gyd fod yn rhan o’r daith o’r fferm i’r fforc er mwyn helpu i achub natur.

Bydd ein cynghorwyr arbenigol hefyd wrth law i siarad â ffermwyr a rheolwyr tir sy’n awyddus i ddarparu cartrefi ar gyfer bywyd gwyllt, ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych yng nghyswllt Brexit sy’n ymwneud â dyfodol ffermio yng Nghymru.

Ar ôl hynny, bydd cyfle i chi ddweud pam fod bwyd a ffermio mor bwysig i chi, drwy adael neges ar ein cynfas cornchwiglen enfawr. Byddwn ni hefyd yn arddangos mawnog, a bydd cyfle i chi ddysgu sut mae mawnogydd yng Nghymru yn amsugno dŵr ac yn helpu i atal llifogydd. Mae mawnogydd hefyd yn chwarae rhan hanfodol o ran atal newid yn yr hinsawdd, a hynny drwy storio carbon. Bydd cyfle i chi dorchi eich llewys a theimlo mawn slwtshlyd, mwsoglau sbyngaidd a bêls grug pigog wrth ddysgu sut maen nhw’n darparu cartrefi i fywyd gwyllt a glanhau dŵr yfed i bobl.

rspb-images.com

Bydd gennym ni hyd yn oed ganllaw cab tractor newydd sbon i ffermwyr fynd adref gyda nhw. Bydd hwn yn ganllaw maint poced fel bod ffermwyr a rheolwyr tir yn gallu canfod ac adnabod adar pan fyddan nhw allan ar y fferm. Hefyd, bydd sticeri a bathodynnau pin bywyd gwyllt ar gael i’r plant fynd adref gyda nhw i gofio am y diwrnod.

Ar 25 Gorffennaf, byddwn ni hefyd yn rhan o ddigwyddiad Cyswllt Amgylchedd Cymru yn stondin Coed Cadw a fydd drws nesaf i ni. Bydd y digwyddiad yn lansio Gweledigaeth ar gyfer Rheoli Tir Cynaliadwy yng Nghymru, sy'n cael ei gefnogi gan 28 o Sefydliadau Anllywodraethol. Bydd y gwesteion yn cynnwys aelodau a swyddogion o Lywodraeth Cymru, undebau ffermio, cwmnïau dŵr a llawer mwy! Mae’n argoeli i fod yn ddigwyddiad diddorol ac ysbrydoledig dros ben a fydd yn edrych ar ddyfodol ble fydd Gymru yn gynaliadwy a chyfoethog o ran ei byd natur.

Felly, dewch i fwynhau diwrnod llawn hwyl ar gyfer y teulu cyfan a fydd yn cynnwys llwyth o straeon ac atgofion gwych ynghylch pam fod bwyd a ffermio mor bwysig i fyd natur. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi gyd yn Llanelwedd!