I ddarllen y blog yn Saesneg / To read the blog in English click here 

Mae RSPB Cymru yn cydymdeimlo â'r effaith y mae twbercwlosis buchol (bTB) a'r mesurau rheoli presennol yn eu cael ffermio gwartheg yng Nghymru. Rydym yn cydnabod bod colli eu stoc yn peri gofid sylweddol i ffermwyr a chanddo ganlyniad ariannol ar gyfer unigolion a’r trethdalwr. Mae'n bwysig, felly, bod mesurau effeithiol yn cael eu canfod er mwyn mynd i'r afael â'r clefyd ac i waredu’r haint.

Meddai Cyfarwyddwr RSPB Cymru, Katie-jo Luxton, "Rydym yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â mynd ar drywydd difa ar raddfa eang ac yn cefnogi ymagwedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth i fwrw ati i ddifa’r clefyd. Rydym yn annog yr angen i fonitro pellach oherwydd gall dewis 'trap a phrawf' moch daear a ewthenaseiddio’r rhai heintiedig greu canlyniadau anfwriadol. Mae astudiaethau blaenorol wedi nodi y gallai moch daear symud i mewn i ardaloedd lle mae eraill wedi cael eu gwaredu ac wrth wneud hynny gall yr haint gael ei ledaenu ymhellach. Felly, mae'n rhaid deall yn llawn beth yw effaith ewthenaseiddio moch daear heintiedig er mwyn sicrhau bod mesurau rheoli ddim mewn gwirionedd yn gwneud pethau'n waeth. "

Gan fod y dystiolaeth yn dangos mai moch daear yw'r ffynhonnell uniongyrchol o ddim ond 5.7% o achosion bTB, mae hefyd yn bwysig rhoi ffocws ar edrych ar achosion eraill sydd yn deillio o haint gwartheg i wartheg drwy brofion gwartheg priodol a sefydlu mesurau bioddiogelwch effeithiol ar ffermydd.

rspb-images.com