To read this blog in English please click here.

Dywedodd rhywun wrthyf rywdro mai mater o ymarfer ydy’r gelfyddyd o ddenu cymar. Mae’n broses sy’n gofyn am amynedd ac amser, ynghyd â bod yn benderfynol er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn dod o hyd i'ch partner perffaith - neu o leiaf rhywun y gallwch fwynhau diod neu ddwy gyda nhw!

Andy Hay, rspb-images.com

Pan ddechreuais weithio gydag RSPB Cymru, roeddwn o dan yr argraff fod adar yn mynd ati mewn ffordd wahanol i ddod o hyd i gymar - hynny yw, eu bod yn anghofio’r broses o baru ac yn setlo i lawr yn eithaf cyflym. Ond roedd hyn oll nes i mi ddarganfod ychydig bach mwy am geiliog hardd ond hwyliog y rugiar ddu...

Nid yw’r ceiliog yn swil ymysg y grugieir edmygol ag ef fyddai’r cyntaf yn y ciw i brynu diod i chi wrth y bar. Gyda’i dagell goch amlwg a'r streipen wen drawiadol ar ei adain, byddwch chi’n siŵr o’i adnabod yn syth. Ond, yn hytrach nag aros ar ei draed yn hwyr i sgwrsio gyda chi, mae’n well gan geiliog y rugiar ddu aros nes daw'r wawr i ddal eich sylw drwy arddangos a brolio’n uchel - neu fel rydw i’n hoffi ei alw, defnyddio’r ‘chat-up’ line gorau sydd ganddo.

Yn hytrach nag alaw swynol ramantus glywn sain fyrlymog ac iasol wrth i’r ceiliogod ymledu eu plu a galw wrth gystadlu am sylw'r grugieir. Wedyn, maent yn rhedeg ‘gan sgrechian’ tuag at eu cariadon cystadleuol er mwyn ceisio sicrhau mai nhw yw’r meistr, wrth i’r grugieir wylio’n urddasol cyn dewis eu cymar.

Ceiliog y rugiar ddu yw un o dri aderyn yn unig ym Mhrydain sy’n ceisio paru fel hyn. Mae gan y ceiliog rywfaint o fantais pan ddaw’n fater o fflyrtio gan ei fod yn berchen ar un o’r technegau orau erioed - techneg nad yw llawer o bobl yn cael gweld. Ond dros y pum wythnos nesaf bydd RSPB Cymru yn ymuno â’r rugiar ddu ar weundir trawiadol Coedwig Llandegla i wylio’r stori garu hon yn datblygu.

Yn anffodus, mae angen i’r ceiliogod frolio mor uchel ag y gallant ar hyn o bryd gan fod rhywogaeth y rugiar ddu ar y rhestr goch. Mae dirywiad i'w weld ar raddfa fawr ledled y DU ac mae cyn lleied â 131 o geiliogod wedi ceisio paru. Ond, rydym wedi bod yn gweithio gyda rheolwyr tir yng Nghoedwig Llandegla ac o’i chwmpas i sicrhau bod gan y rugiar ddu'r amodau gorau posib ar gyfer denu cymar. Felly, wrth i ni wylio ei daith ramantus yn ystod tymor y gwanwyn, rydym yn gobeithio gweld y niferoedd yn cynyddu - gan ganiatáu i’r rugiar ddu frolio am hir oes, nes iddo ddod o hyd i’w gymar perffaith.

Chris Gomersall, rspb-images.com

Os ydych chi’n fodlon gosod y cloc larwm ychydig yn gynt na'r arfer - a choeliwch chi fi, mi fydd yn werth yr ymdrech - gallwch ymuno â ni unwaith eto dros y misoedd nesaf ar daith dywys drwy’r goedwig cyn i ni gyrraedd ein cuddfan sydd wedi’i hadeiladu’n bwrpasol er mwyn gwylio eu perfformiad tua 400m i ffwrdd. Cadwch lygaid allan ar Trydar ac Facebook @RSPBCymru am fwy o wybodaeth.