English version available here.
Mae bywyd gwyllt wedi cael sylw ar y newyddion yng Nghymru yr wythnos hon yn dilyn cyhoeddiad adroddiad Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd (Pwyllgor NHAS). Mae hwn yn un o nifer o Bwyllgorau’r Senedd – mae sawl grŵp trawsbleidiol o ASau yn craffu ar berfformiad Llywodraeth Cymru mewn gwahanol feysydd polisi, megis iechyd, diwylliant, a’r economi.
Cynhaliwyd adroddiad y Pwyllgor NHAS yn dilyn ymchwiliad a oedd yn galw am dystiolaeth ysgrifenedig ar berfformiad Llywodraeth Cymru wrth geisio atal a gwrthdroi difodiant natur. Daeth y galwadau hyn yn dilyn trafodaethau wyneb yn wyneb ag amrywiaeth o gyfranwyr. Mae’r adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi yn feirniadol iawn o’r cynnydd araf y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud wrth gyflawni eu hymrwymiadau allweddol. Un o’r rhain yw’r targed rhyngwladol o warchod 30% o diroedd a moroedd ar gyfer natur erbyn 2030.
Un opsiwn a ystyriwyd gan y Pwyllgor er mwyn hybu gweithredu dros natur oedd y Bil Natur Bositif ar lywodraethiant amgylcheddol a thargedau bioamrywiaeth sydd ar y gweill. Mae adroddiad y Pwyllgor yn galw ar y llywodraeth i gynnwys prif darged yn y Bil sy’n cyd-fynd â’u hymrwymiad fel rhan o’r Fframwaith Bioamrywiaeth Rhyngwladol i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth erbyn 2030, a sicrhau adferiad erbyn 2050. Mae'r bil yn datblygu’n gyflym, ac mae’r adroddiad yn nodi pwysigrwydd gosod rheoliadau dan y Bil - bydd y rhain yn rhoi rhagor o fanylion ar ein targedau bioamrywiaeth. Maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ganddynt yr adnoddau priodol i ddatblygu targedau bioamrywiaeth. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynlluniau gweithredu clir, sydd wedi’u prisio, er mwyn cyflawni targedau adfer natur.
Mae’r argymhellion hyn i gyd yn gadarnhaol, ac mae'n newyddion da bod gan y pwyllgor gymaint o uchelgais, gan mai’r grŵp hwn o ASau fydd yn debygol o arwain ar y gwaith craffu pan fydd y Bil yn cael ei roi gerbron y Senedd.
Ymhlith y 30 argymhelliad a geir yn yr adroddiad, mae’r pwyllgor yn galw ar y llywodraeth i wneud mwy er mwyn cyflawni eu hymrwymiad ‘30 erbyn 30’. Maent yn pwysleisio bod angen monitro’r ffordd mae’r ardaloedd gwarchodedig yn cael eu rheoli er mwyn sicrhau bod natur yn ffynnu; gwneud yn siŵr fod y Strategaeth Cadwraeth Morol yn ystyried adar y môr a rhywogaethau symudol; a sicrhau bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cyfrannu at adferiad bioamrywiaeth. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at yr angen i gynyddu buddsoddiad y Llywodraeth a ffynonellau preifat mewn natur, ac yn pwysleisio bod integreiddio bioamrywiaeth ymhob maes polisi yn hanfodol er mwyn sicrhau ymateb y llywodraeth gyfan i’r argyfwng natur.
Mae RSPB Cymru yn croesawu’r adroddiad. Rydym ni’n croesawu ymrwymiadau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i adfer natur, nid oes amheuaeth o’r dystiolaeth fod bywyd gwyllt yn dirywio ar gyfradd ddychrynllyd, ac mae maint yr her sy’n ein hwynebu yn amlwg. Dyna pam bod angen i’r ‘Bil Natur Bositif’ osod targedau ar gyfer adferiad natur, a gellir dal Llywodraeth Cymru i gyfrif yn eu herbyn. Bydd pawb yn elwa o wneud hyn yn iawn – natur yw ein system cynnal bywyd. Ond mae amser yn brin.