Gwylio Adar yr Ardd 2025: Drudwy yn dioddef y gostyngiad mwyaf mewn niferoedd ers degawdau

English version available here

  • Y nifer cyfartalog isaf ar gofnod o'r Ddrudwy yng ngerddi Cymru yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2025

  • Aderyn y To, Titw Tomos Las a’r Drudwy yn parhau i fod ar y brig yng Nghymru

  • 25,791 o bobl ledled Cymru yn cymryd rhan er gwaethaf y tywydd, gan gyfrif dros hanner miliwn o adar


Mae canlyniadau Gwylio Adar yr Ardd 2025 wedi cyrraedd. Daeth Aderyn y To i’r brig unwaith eto fel yr aderyn mwyaf amlwg dros y penwythnos, gyda’r Titw Tomos Las yn yr ail safle a’r Drudwy yn y trydydd. Dringodd y Robin Goch un lle i’r pumed safle, gan olygu bod y Titw Mawr wedi mynd i lawr i’r chweched safle. Aeth y Nico, sydd wedi gweld cynnydd mawr yn y degawd diwethaf, allan o'r deg uchaf am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn, gan wneud lle i’r Bioden ddod yn ôl i’r degfed safle ar ôl colli ei lle y llynedd.

Er mai bach yw’r newidiadau yn y safleoedd uchaf, mae’r gostyngiad yn nifer un o’n rhywogaethau mwyaf adnabyddus yn rhywbeth a ddylai fod yn destun pryder yn ôl RSPB Cymru.

Aderyn sydd wedi gweld gostyngiad sylweddol yng Nghymru ac ar draws y DU yw’r Drudwy, sy’n gyffredin mewn gerddi mewn lleoliadau trefol a gwledig fel ei gilydd. Yn enwog am eu heidiau hudolus pan fo cannoedd neu hyd yn oed filoedd o adar yn hedfan gyda’i gilydd gan wneud patrymau syfrdanol ar draws yr awyr, mae niferoedd y Drudwy wedi gostwng yn barhaus ledled Ewrop. Ac mae canlyniadau digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd eleni yn dangos mai Cymru sydd â’r niferoedd isaf o Ddrudwy ers dechrau cadw cofnodion cenedlaethol.

Dywedodd Julian Hughes, Pennaeth Rhywogaethau RSPB Cymru:

“Mae’r rhan fwyaf o’r Drudwy a welwn yn y gaeaf, sy’n olygfa gyffrous wrth iddynt hedfan i glwydo gyda’r nos, yn dod yma o ogledd-ddwyrain Ewrop i chwilio am fwyd a hinsawdd fwyn. Mae’r niferoedd hirdymor wedi gostwng 60% ar draws Ewrop oherwydd newidiadau amaethyddol, felly mae llai i’w gweld yng Nghymru.”

Serch hynny, gall pobl sy’n caru natur wneud rhai pethau i’w helpu. Mae adar fel y Drudwy a’r Aderyn Du yn hoffi chwilota am bryfed ac ysglyfaeth arall. Mae cadw lawntiau’n naturiol yn ffordd wych o helpu’r niferoedd i ffynnu. Maen nhw hefyd yn hoffi dod o hyd i loches i nythu mewn agoriadau mewn hen adeiladau, ond gyda mwy a mwy o waith adnewyddu a dymchwel ar adeiladau o’r fath, mae’r Drudwy, yn union fel ein Gwennol Ddu boblogaidd, yn ei chael yn fwy anodd dod o hyd i gartref. Gall blychau nythu, yn ddelfrydol yn wynebu'r gogledd ddwyrain gyda mynedfa drwy dwll 45mm, ddarparu safleoedd nythu parod angenrheidiol.

Ychwanegodd Julian Hughes:

“Yng Nghymru, rydym ni wedi colli dwy ran o dair o’n Drudwy bridio mewn llai na 30 mlynedd, felly maen nhw ar Restr Goch Cymru fel un o’r rhywogaethau sydd â’r gostyngiadau mwyaf. Mae Drudwy bridio wedi diflannu o ardaloedd mawr o Orllewin Cymru yn benodol, ac erbyn hyn rydym yn gweld llai ohonynt mewn gerddi yn y gaeaf. Gall hyn fod yn dystiolaeth o newid yn yr hinsawdd yn ein hardal ein hunain os oes llai o Ddrudwy yn teithio yma yn y gaeaf.”

Er gwaethaf storm Eowyn, roedd 25,791 o bobl wedi cymryd rhan ledled Cymru, gan ddychwelyd 15,880 o arolygon a chyfrif 502,321 o adar anhygoel. Ac er y bydd y tywydd wedi cael effaith ar ymwelwyr â gerddi, nid oes amheuaeth nad yw’r canlyniadau eleni yn ein hatgoffa’n glir fod sefyllfa’r Drudwy yn adlewyrchu’r argyfwng natur ehangach yng Nghymru.

Dywedodd Alun Prichard, Cyfarwyddwr RSPB Cymru:

“Rydym ni’n falch iawn fod cynifer o bobl wedi rhoi awr o’u hamser dros benwythnos Gwylio Adar yr Ardd, er gwaethaf y tywydd – mae hyn wedi sicrhau ein bod ni’n gallu cael cipolwg clir ar sefyllfa adar yr ardd yng Nghymru. Nid yw’r rhifau’n dweud celwydd. Mae gostyngiadau pellach ymysg rhai adar yr ydym ni'n aml yn eu cymryd yn ganiataol; ac mae’r angen brys i weithredu er mwyn gwrthdroi’r gostyngiadau hyn yn gryfach nag erioed. Mae hi'n argyfwng ar fyd natur – mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiadau uchelgeisiol i adfer byd natur ond mae’n araf yn cyflawni. Mae angen i bolisïau y bu mawr ddisgwyl amdanynt, fel y Bil Natur Bositif, gael eu cyflawni’n gyflym. All natur ddim aros.”