To read this blog in English please click here.

Mae'n amser troi eich llygaid i'r awyr ar 28, 29 a 30 Ionawr 2017 i gymryd rhan yn ein harolwg blynyddol Gwylio Adar yr Ardd.

Yn awr yn ei 38ain flwyddyn, Gwylio Adar yr Ardd yw’r arolwg mwyaf o fywyd gwyllt yr ardd yn y byd ac eleni, am y tro cyntaf mewn hanes, mae gennych chi ddiwrnod ychwanegol i gofnodi’r ymwelwyr yn eich gerddi wrth i Wylio Adar yr Ardd yn ymestyn i dridiau. Mewn ymateb i alw mawr gobeithir y bydd hyn yn galluogi hyd yn oed fwy o bobl i gymryd rhan, fydd yn helpu ni i ddeall sut y mae ein bywyd gwyllt yn ymdopi.

Bu mwy na 24,000 o bobl yng Nghymru yn cymryd rhan y llynedd ac mae’n gyfle perffaith i’r teulu cyfan ddod at ei gilydd – mae’n syml, rhowch y tegell ymlaen, gwnewch eich hun yn gyfforddus a chyfrwch yr adar rydych yn gweld yn eich gardd neu fan gwyrdd lleol am awr. Gyda chanlyniadau o gymaint o erddi drwy Gymru, gallwn weld pa mor gyfoethog, syfrdanol a gwerthfawr yw ein cymdogion gwyllt. Does dim ots os welwch chi gyfoeth o fywyd gwyllt neu dim byd o gwbl – hoffwn glywed gennych chi beth bynnag.
 
Yn ogystal â chyfrif ein hoff adar yr ardd, hoffwn i chi gofnodi’r bywyd gwyllt arall rydych yn gweld yn eu gerddi a’ch mannau gwyrdd drwy gydol y flwyddyn, fel draenogod, llwynogod, carlymod a gwiwerod. Mae gerddi a mannau gwyrdd yn adnoddau gwerthfawr i fywyd gwyllt a bydd hyn yn helpu i greu darlun cyffredinol o ba mor bwysig yw ein gerddi ar gyfer darparu cartref i fyd natur.

Uchod: rspb-images.com

Hoffwn glywed sut ydych chi'n dod ynghyd i ddarganfod y bywyd gwyllt cyffrous yn eich gerddi, ac nid oes angen i chi fod yn arbenigwr i gymryd rhan.  Mae gennym ni becyn arlein o bopeth yr ydych chi ei angen, ac mae canllawiau hwylus i’ch helpu chi i wahaniaethu rhwng ji-binc a nico! Gydag ychydig o ymdrech, gall ein cartrefi fod yn gartrefi gwych ar gyfer adar y genedl hefyd.

Er mwyn helpu chi i baratoi ar gyfer Gwylio Adar yr Ardd, mae gennym ni llond trol o ddigwyddiadau drwy Gymru – o ddarganfod sut i wneud bwydwyr adar gwych at adnabod y creaduriaid yr ydych chi’n rhannu eich cartref gyda nhw...

Dewch i RSPB Conwy ar 21 a 22 Ionawr i ddysgu sut y gallwch chi ddenu mwy o fywyd gwyllt i’ch gardd a darganfod beth i roi i’ch ymwelwyr unwaith y maen nhw’n cyrraedd. Mae’r digwyddiadau yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle - dim ond cyrraedd unrhyw bryd rhwng 11yb a 3yh ac ymuno yn yr hwyl.

Ar 22 Ionawr, bydd tîm RSPB Llyn Efyrnwy yn barod i’ch helpu chi i wneud peli braster suddlon a bwydwyr blasus ar gyfer adar eich gardd, y gallwch chi wedyn fynd gyda chi i’w rhoi yn eich gardd yn barod ar gyfer y cyfrif mawr. Galwch i mewn unrhyw bryd rhwng 11yb a 3yh ac mae llefydd yn rhad ac am ddim.

Ymunwch â ni yn RSPB Ynys Lawd ar 21 a 22 Ionawr lle byddwn ni’n eich helpu i greu rhai danteithion blasus ar gyfer adar eich gardd, a bydd staff wrth law i gynnig awgrymiadau gwych ar sut i sylwi ar y bywyd gwyllt ar eich stepen drws. Pris y digwyddiad yw £3 i aelodau a £4 i’r rhai nad ydyn nhw’n aelodau ac mae croeso i chi alw heibio unrhyw bryd rhwng 11yb a 3yh.

Sicrhewch eich bod yn adnabod eich adar a chrëwch ddanteithion blasus ar gyfer yr adar yn eich gardd yn RSPB Ynys-hir ar 22 Ionawr. Pris y digwyddiad yw £3 i aelodau a £4 i’r rhai nad ydyn nhw’n aelodau a gallwch chi alw heibio unrhyw bryd rhwng 11yb a 3yh.
 
Yn ogystal, mae gennym ni gyfres o ddigwyddiadau ledled Gaerdydd gyda phrosiect Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd, mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Caerdydd. Byddwn ni’n gwneud bwyd  sy’n tynnu dŵr o’ch dannedd i’n hadar yn Fferm y Fforest Caerdydd, Parc Bute, Pugh’s Garden Village, Canolfan Siopa Dewi Sant, Amgueddfa Byd Natur Sain Ffagan a Techniqest - yn ogystal â hogi ein sgiliau sylwi ar adar a bod yn greadigol yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.  Ewch i
http://www.rspb.org.uk/reserves-and-events/events-dates-and-inspiration/events/ am fwy o wybodaeth os gwelwch yn dda.

Ewch  i  rspb.org.uk/birdwatch er mwyn cofrestru i gymryd rhan a llawrlwythwch eich pecyn Gwylio Adar yr Ardd am ddim. Yn ogystal, gallwch ddilyn yr hyn sy’n digwydd drwy’r penwythnos drwy ddilyn @RSPB Cymru ar Drydar neu ddefnyddio #GwylioAdar / #BigGardenBirdwatch. Bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi ym mis Mawrth 2017.