Gweithredu er mwyn sicrhau dyfodol i nythfeydd Adar y Môr yng Nghymru, nythfeydd sy’n bwysig yn fyd-eang.

English version available here

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar Strategaeth Cadwraeth Adar y Môr ar gyfer Cymru.  Mae Adar y Môr yn ddangosydd allweddol o iechyd cyffredinol ecosystemau morol.  Ond, mae poblogaeth Adar y Môr yn lleihau’n gynt nag unrhyw grŵp arall o adar, ac yn anffodus, mae’r bygythiadau sy’n wynebu’r rhywogaethau hyn yn cynyddu. Mae’r bygythiadau sy’n eu hwynebu’n cynnwys effeithiau newid yn yr hinsawdd, mynd yn sownd mewn offer pysgota, aflonyddwch, datblygiadau anaddas, colli cynefinoedd ac ysglyfaethwyr.  

Mae ynysoedd arfordirol Cymru yn bwysig yn fyd eang am eu bod yn gartref i nythfeydd sawl rhywogaeth o Adar y Môr.  Mae dros hanner poblogaeth y byd o Adar Drycin Manaw yn nythu o dan y ddaear mewn tyllau ar ein hynysoedd. Mae pedwaredd nythfa fwyaf y byd i’w chael ar Ynys Gwales yr RSPB, a Chymru hefyd yw cartref y nythfa fwyaf yn y DU o Fôr-wenoliaid y Gogledd; mae’r nythfa ar Ynysoedd y Moelrhoniaid, grŵp o ynysoedd oddi ar arfordir Ynys Môn.   

Fe arweiniodd yr adolygiad diweddar o Adar y Môr sy’n bridio, a gynhaliwyd gan yr RSPB ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Adareg Prydain, a Chymdeithas Adaryddol Cymru, at ychwanegu Huganod at Restr Goch Adar o Bryder Cadwraethol yng Nghymru am y tro cyntaf.  Fe wnaeth yr adolygiad diweddaraf o Adar y Môr, a gyhoeddwyd gan Adar o Bryder Cadwraethol yn y DU, arwain at ychwanegu pum rhywogaeth o Adar y Môr, gan gynnwys Môr-wenoliaid y Gogledd a'r Wylan Gefnddu Fwyaf at Restr Goch y DU o Adar o Bryder Cadwraethol.   

 Er mwyn i’r boblogaeth ffynnu, mae angen y canlynol ar Adar y Môr:   

  •  Llefydd diogel i fridio a magu eu cywion.  
  •  Cyflenwad digonol o fwyd i’w bwydo eu hunain a’u cywion.   
  •  Goroesi’n ddigon hir i allu bridio’n llwyddiannus - mae Adar y Môr yn rhywogaethau sy’n byw yn hir ac yn cymryd amser i aeddfedu, felly dim ond un neu ddau wy y maent yn eu dodwy bob blwyddyn.  

Mae ein dyfalbarhad wedi sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymroi i Strategaeth Cadwraeth Adar y Môr ar gyfer Cymru, ac rydym ni’n croesawu'r strategaeth honno. Rydym ni’n galw am ddatblygu Cynllun Gweithredu effeithiol sydd â digon o adnoddau er mwyn sicrhau bod camau diogelu digonol ar waith, yn ogystal â system o fonitro a rheoli ein nythfeydd Adar y Môr. Bydd y Cynllun Gweithredu yn cynnwys mesurau i wneud y canlynol:   

Diogelu’r ardaloedd pwysicaf ar gyfer adar y môr ar y tir, e.e. nythu, ac ar y môr, e.e. bwydo.   

  •  Diogelu’r ddarpariaeth o bysgod ysglyfaethus gan fod adar y môr yn dibynnu arnynt, a sicrhau bod pysgodfeydd yn gweithredu mewn modd cynaliadwy gan ddarparu canlyniadau gwell i adar y môr ac i bobl.   
  • Gwarchod adar y môr yng Nghymru rhag ysglyfaethwyr goresgynnol fel llygod mawr, a rhoi cynlluniau ar waith er mwyn cael gwared â’r ysglyfaethwr goresgynnol o’r ynysoedd maent yn effeithio arnynt.   
  •  Sicrhau bod cynllunio morol a datblygiadau adnewyddadwy arfordirol yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol ac yn darparu cyllid uniongyrchol er mwyn gweithredu dros natur a’r hinsawdd.  
     

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus ar Strategaeth Cadwraeth Adar y Môr ar agor tan 14 Chwefror. Gweithredwch nawr drwy arwyddo’r e-weithred sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y strategaeth yn rhoi mesurau allweddol ar waith er mwyn diogelu poblogaeth adar y môr yng Nghymru.