To read this blog in English please click here.


Blog gwadd gan Sarah Mitchell, Swyddog Addysg, Teuluoedd ac Ieuenctid RSPB Cymru

Gyda'r gwyliau haf y tu ôl i ni a’r Nadolig yn prysur agosáu, pa ffordd well i fwynhau’r tymor yn newid na chael estyn ein cotiau o'r cwpwrdd, gwared y llwch a'r gwe pry cop a chael gafael ar y chwyddwydr i ddarganfod yr holl fywyd gwyllt gwych o’n gwmpas ni.

Er bod ysgolion yn yr wythnosau cyntaf o’r tymor yn unig, mae sesiynau ysgol yr RSPB eisoes wedi dechrau. Rydym wedi llwyddo gweld beth sy’n byw o fewn ac o amgylch Ysgol Gynradd St Bernadette yng Nghaerdydd yn ystod eu Hwythnos Eco. Rydym wedi dod a theuluoedd yn agosach at ei gilydd wrth iddynt ddarganfod natur yn eu cymuned leol yn Hwb Partneriaeth Greenway, ac rydym wedi chwilio bob twll a chornel o Erddi Llwynfedw am fywyd gwyllt gydag Ysgol Gynradd Gellifedw. Nid ydym am i ysgolion sydd heb ardaloedd gwyrdd i fethu’r cyfle i fwynhau ein sesiynau ysgol benigamp ac rydym yn ddigon ffodus bod rhan fwyaf o ysgolion yng Nghaerdydd o fewn pellter cerdded o rhai ardaloedd gwyrdd bendigedig.

Fel Swyddog Addysg, Teuluoedd ac Ieuenctid RSPB Cymru, rwyf yn barod wedi derbyn ceisiadau am sesiynau gan ysgolion hyd at diwedd mis Tachwedd. Rwy'n edrych ymlaen at flino'n lân a mwynhau yng nghanol y dŵr a’r mwd wrth i ni chwilio am lwybrau ac arwyddion, cnau ac aeron ac wrth gwrs digonedd o wylanod.  

Lluniau: Eleanor Bentall (rspb-images.com)

Caiff ysgolion y dewis o dri sesiwn allgymorth rhad ac am ddim ac mae’n bosib trefnu dau o'r rhain o fewn un blwyddyn academaidd. Mae'r sesiynau hyn yn caniatáu i blant ddarganfod ac arolygu tiroedd eu hysgol wrth chwilio am bopeth o'r pry cop gwiddonyn coch i'r dderwen gref; yn datblygu eu gwybodaeth wyddonol, eu lles a’u sgiliau rhifo - ac yn bwysicaf oll i gael hwyl gyda'u ffrindiau.

Mae ein sesiwn gyntaf - Gwylio Adar yr Ysgol - yn gyfle i ysgolion gymryd rhan yn y digwyddiad gwylio adar mwyaf a hwyaf Ewrop; prosiect gwyddoniaeth dinesydd enfawr ledled y DU cyfan. Yn ystod Ionawr a Chwefror, gall ysgolion ymuno yn yr hwyl a chyflwyno eu canlyniadau ar-lein.

Gall Bioblits godi rhai canlyniadau rhyfeddol a helpu disgyblion ymchwilio'r cynefinoedd o amgylch yr ysgol er mwyn dod o hyd ac adnabod planhigion ac anifeiliaid sydd wedi addasu i amgylcheddau gwahanol.

Ac yn olaf, ond hefyd o bwys, mae ein sesiwn Rhoi Cartref i Fyd Natur wedi ei gynllunio i helpu disgyblion i fapio natur ar dir eu hysgol; adnabod mannau a chynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt a chanfod cyfleoedd diddiwedd i fwynhau'r adar, trychfilod a’r bwystfilod bach yn eu hardal. Rwy'n edrych ymlaen at y gaeaf yn barod!


Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu unrhyw un o'r sesiynau rhad ac am ddim hyn ar gyfer eich ysgol chi, cysylltwch â Sarah Mitchell ar 02920 353 271 / sarah.mitchell@rspb.org.uk