I ddarllen hwn yn Gymraeg sgroliwch i lawr

Glastir, the Welsh Government’s wildlife-friendly farming scheme, is the main tool for rewarding farmers who protect and maintain our countryside. The Government’s current review of the scheme is a vital opportunity to ensure farmers’ efforts to manage their land for wildlife achieve success and deliver as much as possible to prevent further loss of wildlife in Wales.

 Because 80% of the Welsh countryside is farmed, Glastir is one of the primary tools available to the Government if it is to halt wildlife loss by 2020. In order to deliver, the scheme has to be designed to form part of a wider well-funded plan to tackle wildlife declines across Wales. Given Glastir’s key role, it’s also vital that farmers in the scheme are given the help, training and guidance they need to make it work for them, their wildlife and their farms too. Land management for nature often requires specialist knowledge and experience, and farmers must be able to draw on those best qualified to provide assistance.

One of the things this specialist knowledge and advice can ensure is that the scheme provides real homes for wildlife, meaning somewhere to rest, feed and breed. The current design of Glastir means that farmers can end up working hard providing just one of these things, meaning that the wildlife they’re working for won’t thrive because the other two basic requirements just aren’t available. The new scheme will need to support and promote farmers working together to provide for the basic needs of our wildlife at the right scale across farms.

Finally, to secure real environmental benefits and the greatest value for public money from the scheme, it will be essential to identify the areas on farms that are most important for wildlife and ensure the scheme is targeted at these exceptional areas. Where only part of a farm is included, guarantees must be put in place to prevent environmental damage on those areas outside of the scheme or risk undermining progress.

How you can help
The Welsh Government is currently consulting on the design for the Glastir scheme. You can help farmland wildlife and the farmers looking after it by writing to the Welsh Government with your views on the proposals by the 28th March, when the consultation closes. This is your opportunity to let the Government know why protecting farmland wildlife matters to you.

Here are some important points you may like to include in your letter about what Glastir must do:

  • Form part of a wider, budgeted plan to tackle wildlife declines
  • Equip farmers with the tools for success
  • Provide everything wildlife needs for feeding, breeding and resting
  • Targets our best sites for wildlife

Please write to the Welsh Government at: Glastir Consultation Response, Sustainable Land Management Agriculture and Rural Affairs Division, Welsh Government, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR or if you prefer you can email your response to SLMenquiries@wales.gsi.gov.uk.

You could also send a copy of your letter or email to your local Assembly Members (AMs) to show your support for wildlife friendly farming. Find contact details for your AMs here: www.assemblywales.org/memhome.

Please help us track the progress of our campaign by sending copies of your letters and any replies from AMs to Laura Cropper, RSPB Wales Headquarters, Sutherland House, Castlebridge, Cowbridge Road East, Cardiff, CF11 9AB or by email to campaigns.wales@rspb.org.uk.

Thank you! Together we really can make a difference for farmland wildlife.

 

Glastir, cynllun Llywodraeth Cymru dros ffermio sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt, yw’r prif arf ar gyfer gwobrwyo ffermwyr sy’n gwarchod ac yn cynnal ein cefn gwlad. Mae adolygiad presennol y Llywodraeth o’r cynllun yn gyfle hanfodol i sicrhau bod ymdrechion ffermwyr i reoli eu tir dros fywyd gwyllt yn llwyddo ac yn gwireddu cymaint â phosib o safbwynt atal colledion pellach o fywyd gwyllt Cymru.

 Oherwydd bod 80% o gefn gwlad Cymru’n cael ei ffermio, Glastir yw un o’r arfau sylfaenol sydd ar gael i’r Llywodraeth os yw am ddod â cholledion mewn bywyd gwyllt i ben erbyn 2020. I sicrhau llwyddiant, rhaid cynnwys y cynllun o fewn cynllun ehangach a ariennir yn ddigonol er mwyn mynd i’r afael â phrinhad bywyd gwyllt ledled Cymru. O ystyried rôl allweddol Glastir, mae hefyd yn hanfodol fod ffermwyr o fewn y cynllun yn cael y cymorth, yr hyfforddiant a’r arweiniad sydd eu hangen arnyn nhw i sicrhau ei fod yn gweithio iddyn nhw, eu bywyd gwyllt a’u ffermydd hefyd. I reoli tir dros natur, mae angen gwybodaeth a phrofiad arbenigol yn aml, ac mae’n rhaid sicrhau cyfle i ffermwyr wneud yn fawr o’r sawl sydd fwyaf cymwys i ddarparu cymorth.

 Un o’r pethau y gellir ei sicrhau gyda’r wybodaeth a’r cyngor arbenigol yma yw bod y cynllun yn darparu gwir gartrefi i fywyd gwyllt, sy’n golygu rhywle i orffwys, i fwydo ac i fagu. Oherwydd cynllun presennol Glastir fe all ffermwyr weithio’n ddygn i ddarparu dim ond un o’r pethau yma, sy’n golygu na fydd y bywyd gwyllt y maen nhw’n gweithio ar ei ran yn ffynnu oherwydd nad yw’r ddau anghenraid sylfaenol arall ar gael. Bydd angen i’r cynllun newydd gefnogi a hyrwyddo ffermwyr sy’n gweithio gyda’i gilydd i ddarparu ar gyfer anghenion sylfaenol ein bywyd gwyllt ar y raddfa briodol ledled ffermydd.

 Yn olaf, i sicrhau gwir fuddion amgylcheddol i’r cynllun a’r gwerth mwyaf am arian cyhoeddus, bydd yn hanfodol nodi’r mannau pwysicaf i fywyd gwyllt ar ffermydd a sicrhau bod y cynllun yn cael ei dargedu ar y mannau eithriadol yma. Lle nad oes ond rhan o fferm yn cael ei chynnwys, rhaid sicrhau bod gwarantau ar waith i atal difrod amgylcheddol ar y mannau hynny y tu allan i’r cynllun neu bydd risg o danseilio cynnydd.

 
Sut allwch chi gynorthwyo

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ynglŷn â chynllunio’r cynllun Glastir. Fe allwch chi helpu bywyd gwyllt ffermdir a’r ffermwyr sy’n ei warchod drwy ysgrifennu at Lywodraeth Cymru gyda’ch sylwadau ar y cynigion erbyn 28ain Mawrth, pan fydd yr ymgynghoriad yn cau. Dyma eich cyfle chi i adael i’r Llywodraeth wybod pam fod gwarchod bywyd gwyllt ffermdir yn bwysig i chi.

Isod gwelir pwyntiau pwysig y gallwch eu cynnwys yn eich llythyr a’r hyn y mae’n rhaid i Glastir ei wireddu:

  • Ffurfio rhan o gynllun ehangach a ariennir yn ddigonol i fynd i’r afael â phrinhad bywyd gwyllt
  • Darparu ffermwyr gyda’r arfau i sicrhau llwyddiant
  • Darparu pob dim sydd ei angen ar fywyd gwyllt ar gyfer bwydo, magu a gorffwys
  • Yn targedu ein safleoedd gorau dros fywyd gwyllt.

 Ysgrifennwch os gwelwch yn dda at Lywodraeth Cymru yn: Ymateb i Ymgynghoriad Glastir, Adran Rheolaeth Tir Cynaliadwy, Amaeth a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR neu e-bostiwch eich ymateb i SLMenquiries@wales.gsi.gov.uk.

 Gallwch hefyd anfon copi o’ch llythyr i’ch Aelodau lleol o’r Cynulliad (AC) i ddangos eich cefnogaeth dros ffermio mewn dull sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt. Cewch hyd i fanylion cyswllt eich AC yma: www.assemblywales.org/memhome.

 Gallwch ein helpu i dracio cynnydd ein hymgyrch drwy anfon copïau o’ch llythyrau ac unrhyw atebion oddi wrth AC at Laura Cropper, Pencadlys RSPB Cymru, Tŷ Sutherland, Pontycastell, Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Caerdydd, CF11 9AB neu drwy e-bostio campaigns.wales@rspb.org.uk

 Diolch yn fawr! Gyda’n gilydd gallwn wneud gwir wahaniaeth dros fywyd gwyllt ffermdir.