[Heddiw] rhyddhaodd Llywodraeth Cymru ei drafft o Gynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru. Er bod y cynllun drafft yn sefydlu gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer ein moroedd, mae rhai o’r polisïau’n bygwth dadwneud ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i fyd natur a datblygu cynaliadwy.
Llun: Pâl, Chris Gomersall rspb-images.com.
Y polisi ar gyfer morlynnoedd llanw yn y cynllun yw’r enghraifft waethaf o hyn. Yn ôl asesiad Llywodraeth Cymru ei hun, mae’r polisi morlynnoedd llanw yn risg eithriadol o fawr i fyd natur a gallai niweidio rhai o’n safleoedd bywyd gwyllt pwysicaf, gan gynnwys dros 50 o safleoedd gwarchodedig ar gyfer adar. Ond mae’r polisi’n cefnogi morlynnoedd gyda nifer gyfyngedig o amodau. Yn amlwg, rhaid i Gymru ganfod datrysiadau ynni adnewyddadwy, ond ni ddylai hyn olygu gwneud drwg i'r amgylchedd naturiol rydyn ni’n dibynnu arno. Yn ôl ymchwil RSPB, mae hyn yn bosibl.
Gwyddom fod bioamrywiaeth yn lleihau, a does yr un o ecosystemau Cymru yn wydn. Os yw ecosystemau morol yn iach, gallan nhw ddarparu manteision fel rheoleiddio’r hinsawdd a chefnogi pysgodfeydd cynhyrchiol. Ond os ydyn ni’n parhau i'w niweidio, rydyn ni’n lleihau eu gallu i wneud hyn. Dyna pam mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn eglur fod adfer ecosystemau iach yn un o nodau datblygu cynaliadwy.
Er bod Llywodraeth Cymru yn sôn llawer am brif-ffrydio byd natur i’r gwaith o lunio polisïau a chwilio am sefyllfaoedd lle mae pawb ar eu hennill, rydyn ni’n mynd yn fwyfwy pryderus eu bod yn methu â chymhwyso Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’u bod yn parhau i flaenoriaethu datblygiadau ar draul byd natur. Mae’n destun pryder mawr fod y Cynllun Morol yn ymddangos fel petai’n mynd yn groes i'r Ddeddf drwy fethu ag amddiffyn rhai o’n safleoedd bywyd gwyllt arfordirol a morol mwyaf a phwysicaf. Fel un o'r cynlluniau cyntaf i gael eu cyhoeddi ers y Ddeddf, mae hyn yn ein synnu.
Bydd RSPB yn cynnal adolygiad manwl o'r cynllun er mwyn paratoi ein hymateb i'r ymgynghoriad hwn. Byddwn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried polisiau amgen sy'n gyson â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.