Cyngor ar sut i groesawu bywyd gwyllt i'ch gardd

English version available here

Os ydych chi wedi bod yn mwynhau treulio ychydig o amser yn eich mannau gwyrdd yn ystod y tywydd braf diweddar, beth am chwilio am ffyrdd o groesawu amrywiaeth eang o fywyd gwyllt i’ch gerddi. Gyda’r hydref yn dod, dyma bedair ffordd y gallech chi ddenu bywyd gwyllt gwahanol i’ch gerddi:

Llenwch hi â phlanhigion

Un ffordd o wneud eich gardd yn gyfeillgar i fywyd gwyllt yw ei llenwi â phlanhigion. Mae planhigion yn sylfaen gadarn i’r gadwyn fwyd sy’n golygu lle mae 'na blanhigion, mae 'na gysgod a bwyd i gymaint o greaduriaid ymgartrefu ynddynt. Mae blodau fel mynawyd y bugail, llygad y dydd neu lafant nid yn unig yn llenwi’ch gardd â lliw ac yn gymharol hawdd i ofalu amdanynt, ond maen nhw hefyd yn denu peillwyr, sy’n golygu y byddwch chi’n clywed sŵn mwmian gwenyn yn ymweld â’ch gardd yn weddol fuan. 

Crëwch gartref i ddraenogod

Un creadur a fyddai'n elwa o gael tipyn bach o help i ddod o hyd i gartref yn eich gardd yw'r draenog. Amcangyfrifir bod llai na miliwn ohonynt ar ôl yn y DU. Os oes gennych chi ychydig o le sbâr a phrynhawn yn rhydd i greu cartref addas iddo fe allech chi ddenu draenog i ddod i orffwys, i aeafgysgu neu hyd yn oed i fagu ei rhai bach gyda chi. Peidiwch â gofidio os na welwch chi nhw yn yr ardd ar unwaith. Fe all gymryd ychydig o amser i ddraenog ddod o hyd i gartref newydd. Cofiwch, welwch chi ddim ohonynt rhwng mis Hydref a mis Ebrill oherwydd dylent fod yn gaeafgysgu. Dilynwch y ddolen hon am gyngor defnyddiol ar sut i greu cartref i ddraenogod.

Gadewch iddo dyfu'n wyllt

Ffordd hawdd iawn o groesawu bywyd gwyllt i'ch gardd, sydd hefyd yn gwneud eich bywyd yn haws, yw gadael iddo dyfu'n wyllt. Trwy dorri’ch lawnt yn llai aml bydd gennych fwy o amser i  fwynhau’r creaduriaid sy’n ymweld â’ch jyngl bach, gyda chwilod a thrychfilod yn crwydro yma ac acw ac adar yn ymweld i fwydo ar hadau. Os gallwch chi wrthsefyll yr ysfa i dorri'ch lawnt tan ddiwedd yr haf bydd yn ymdebygu i ddôl wair. Bydd gadael i'ch glaswellt dyfu hefyd yn cynnig cysgod i greaduriaid bach pe bai'r tywydd yn newid.

Sicrhewch fod y gwesty ar agor 24 awr y dydd 

Mae creu gwestai chwilod yn weithgaredd hwyliog y gall y teulu cyfan gymryd rhan ynddo. Un fantais o adeiladu gwesty chwilod yw y gall gynnig rhywfaint o gysgod ar gyfer ystod eang o greaduriaid a gallwch ei adeiladu i ffitio'r gofod sydd ar gael gennych ar ei gyfer. Gallwch adeiladu'r gwesty ar unrhyw adeg o'r flwyddyn ond, os fedrwch chi wneud hynny yn yr hydref, gallwch ddefnyddio deunyddiau naturiol sydd ar gael o'ch cwmpas fel glaswelltir sych i adeiladu'ch gwesty. Ar ôl ei adeiladu, ymlaciwch ac arhoswch i'r cyntaf o ymwelwyr yr hydref gyrraedd. I gael canllaw cam wrth gam a chyfarwyddiadau o'r hyn y bydd ei angen arnoch i adeiladu'ch gwesty, cliciwch yma.