English version available here
Ydych chi’n gwylio adar ac yn awyddus i gyfrannu at gadwraeth adar Cymru? Os felly, byddem yn gwerthfawrogi pe baech yn cymryd rhan yn yr Arolwg Adar Bridio (BBS) a gynhelir ar y cyd rhwng BTO, JNCC a’r RSPB dros y gwanwyn. Dim ond tua chwe awr o’ch amser mae’r arolwg hwn yn ei gymryd bob blwyddyn, ac mae’n dweud llawer wrthym am sefyllfa ein hadar bridio. A gyda’r byd yn newid yn gyflym, mae’n bwysicach nag erioed.
Dechreuodd yr Arolwg Adar Bridio yn 1994, a’i brif bwrpas yw olrhain poblogaethau ein hadar bridio cyffredin yn y DU, a’u tueddiadau. Y cwbl sydd angen ei wneud i gwblhau’r arolwg yw ymweld â darn o dir sy’n mesur cilometr sgwâr yn ystod y gwanwyn, a chofnodi’r hyn rydych chi’n ei weld a’i glywed wrth gerdded ar hyd y ddau drawslun (transect).
Ddim yn arbenigwr ar adar? Dim problem! Er y dylech fod yn hyderus yn adnabod ein rhywogaethau bridio mwy cyffredin o ran eu golwg a’u synau, yr oll sy’n bwysig yw eich bod yn gwybod sut i adnabod yr adar rydych chi’n debygol o ddod ar eu traws yn eich sgwâr chi. Does dim disgwyl i chi ddod o hyd i bob un wan jac o’r adar sy’n bresennol chwaith, gan mai arolwg sampl yw hwn. Bydd unrhyw newidiadau ym mhoblogaeth y rhywogaethau yn dal i ymddangos yn ein canlyniadau.
Yng Nghymru, diolch i’n tîm o wirfoddolwyr, gallwn ddarparu tueddiadau ar gyfer 60 o rywogaethau, sydd i gyd ar gael i’r cyhoedd yn yr adroddiad BBS diweddaraf. Fel y gwelwch o’r graffiau isod, mae adar fel Gwenoliaid Duon a Breision Melyn wedi dirywio’n sylweddol dros y tri degawd diwethaf yng Nghymru, tra mae eraill, fel Cnocellau Brith Mwyaf a Thelorion Penddu, wedi cynyddu’n sylweddol.
Mae adar yn arwyddion allweddol o iechyd ecosystemau, felly mae cofnodi newidiadau yn eu niferoedd yn dweud llawer wrthym am gyflwr ein hamgylchedd ehangach. Gyda’r newid yn yr hinsawdd, newidiadau o ran defnydd tir, a llygredd yn dod yn fwyfwy amlwg yn ein cyfryngau, mae deall sut mae’r heriau hyn yn effeithio ar ein hadar yn bwysicach nag erioed. Mae Cymru’n chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gefnogi poblogaethau rhai o rywogaethau’r DU fel Telor y Coed a’r Gwybedog Brith – ond mae nifer o ranbarthau heb eu cofnodi’n ddigonol, ac mae’r darlun o’r sefyllfa ymhell o fod yn glir.
Yn ystod y gwanwyn eleni, mae Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (BTO) – sef un o’n partneriaid ar y prosiect – wedi trefnu deg digwyddiad hyfforddi am ddim ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys dau yng ngwarchodfeydd yr RSPB yn Ynys Hir (16 Mawrth) a Chors Ddyga (22 Mawrth). Bydd y rhain yn cael eu rhedeg ar y cyd â staff yr RSPB sy’n gweithio ar y safleoedd. Os ydych chi’n awyddus i gael rhagor o wybodaeth ond yn methu mynd i ddigwyddiad hyfforddi, cynhelir sesiwn ar-lein yn unig ar 25 Mawrth. I gofrestru ar gyfer sesiwn yn eich ardal chi, ewch i dudalen digwyddiadau BTO Cymru, neu, os ydych chi’n meddwl eich bod yn barod i fynd amdani, ewch i’r dudalen gwneud cais am sgwâr, lle gallwch gysylltu ag un o gydlynwyr rhanbarthol BTO a dod o hyd i sgwâr o dir sy’n addas i chi.
Drwy gymryd rhan, byddwch yn gwneud gwahaniaeth mawr i’n dealltwriaeth o ba bolisïau cadwraeth sydd eu hangen i sicrhau’r dyfodol gorau posibl i’n hadar, ac i’r dreftadaeth naturiol ehangach rydyn ni i gyd yn ei rhannu.
[Mae’r dotiau’n cynrychioli’r gwerthoedd mynegai blynyddol ac mae’r llinell solet yn fynegai wedi'i llyfnhau i roi cyfrif am amrywiadau o flwyddyn i flwyddyn. Mae’r ardal wedi'i thywyllu yn cynrychioli’r ‘cyfwng hyder o 85%’, sef mesur o’r ansicrwydd ynghylch y mynegai llyfn. Lluniau gan: Adrian Dancy, Sarah Kelman, Dennis Atherton, Liz Cutting’]