To read this blog in English click here.
Y Nadolig hwn rydym yn annog pobl i roi’r bwyd sydd dros ben yn eu tuniau rhostio ar ôl eu cinio Nadolig yn y bin gwastraff bwyd a ddim yn yr ardd gan fod braster cig yn beryglus iawn i adar.
Mae'n hynod bwysig osgoi gadael braster twrci wedi’i goginio ar fyrddau adar oherwydd, yn wahanol i fraster arall fel lard a siwet, gall braster twrci wedi’i goginio fod yn niweidiol iawn iawn i'r adar bach sy’n dod i’n gerddi.
Mae’r braster yn dal i fod yn feddal hyd yn oed ar ôl oeri, a gallai daenu ar blu’r adar yn rhwydd iawn a difetha eu nodweddion dal dŵr a chadw’n gynnes. Rhaid i adar gadw eu plu yn lân ac yn sych os ydyn nhw am oroesi tywydd oer y gaeaf, ond byddai haen o saim yn gwneud hynny bron yn amhosib.
Gall braster mewn tuniau rhostio suro’n gyflym iawn os yw wedi cymysgu â suddion cigoedd eraill a’i adael mewn cegin gynnes cyn cael ei roi allan. Dyma’r amgylchedd perffaith i salmonela a bacteria gwenwyn bwyd eraill ddatblygu, ac fel yn achos pobl, gallai hyn fod yn angheuol i adar yr adeg hon o’r flwyddyn, gan nad ydyn nhw mor wydn ac am nad oes ganddyn nhw gymaint o egni oherwydd yr oerni.
Bydd pobl yn ychwanegu halen at gig cyn ei goginio yn aml iawn. Ond, mae llawer o halen yn wenwynig i adar gardd, felly rydym yn annog pobl i beidio â gadael braster wedi’i goginio o unrhyw gig ar fyrddau adar y Nadolig hwn.
Y newyddion da yw bod pethau eraill y gallwch eu rhoi allan i’r adar i’w denu i’ch gardd dros y Nadolig. Mae’n bwysig bod adar yn cael mwy o fwyd yn ystod y cyfnod hwn, ac mae llawer o ddewis gwych ar gael. Mae cymysgedd o hadau adar a pheli siwet yn wych i adar ar gyfer misoedd y gaeaf ac yn darparu’r maetholion angenrheidiol iddyn nhw. Mae rhai o’r bwydydd sy’n weddill ar ddiwrnod Nadolig ac sy’n addas ar gyfer adar gardd yn cynnwys briwsion cacenni, briwsion crwst mins peis a briwsion bisgedi.
Bydd rhoi rhywfaint o'r bwydydd blasus hyn sy’n cael eu hargymell allan yn yr ardd yn annog adar fel yr aderyn du, y robin goch a’r dryw i ddod i’ch gardd yn barod ar gyfer y Gwylio Adar yr Ardd ym mis Ionawr.”
A chofiwch hefyd eich bod yn gadael braster cig i oeri a’i roi yn y bin gwastraff bwyd - dim i lawr y sinc. Mae cwmnïau dŵr hefyd yn annog pobl i gael gwared â braster cig fel hyn.
Ac yn olaf, mwynhewch a Nadolig Llawen!!