To read this blog in English please click here

Bu dros 24,000 ohonoch ledled Cymru yn rhan o arolwg Gwylio Adar yr Ardd eleni, yn cyfrif 455,606 o adar – gan dystio i rai newidiadau cyffrous a diddorol ymhlith ein hadar gardd mwyaf poblogaidd.

Aderyn y to oedd yr aderyn a welwyd amlaf mewn gerddi yng Nghymru unwaith eto, ac roedd bron i dri chwarter o bobl wedi’i weld yn eu gerddi, gyda'r drudwy a'r titw tomos las hefyd ymhlith y tri uchaf. Oherwydd y tywydd a gafwyd cyn yr arolwg, gwelwyd ystod o ymwelwyr gwahanol mewn gerddi yng Nghymru eleni wrth i dymheredd eithriadol o oer y cyfandir eu gorfodi i chwilio am amodau mwynach.  

Mae’r arolwg wedi rhoi data gwerthfawr i ni a fydd yn ein helpu ni i gael gwell darlun o sefyllfa adar ein gerddi. Yn aml, un o’r profiadau cyntaf a gawn o fyd natur yw gweld robin goch neu aderyn du wedi clwydo ar ffens yr ardd. Felly, mae’n wych fod cymaint o bobl yng Nghymru wedi cymryd rhan eto flwyddyn yma.

Rhai o’r ymwelwyr mwyaf cyffredin yn ein gerddi oedd aderyn y to a’r robin goch. Cafodd yr adar hyn eu gweld mewn mwy na 90% o erddi yng Nghymru. Newyddion da arall yw bod cynnydd yn y nifer o adar mwy cyfrinachgar fel drywod (+19%) a llwydiaid y gwrych (+10%) yng Nghymru eleni. Fodd bynnag, mae’r arolwg yn dangos bod cwymp yng nghofnodion y titw tomos las (-20%), y titw mawr (-16%) a’r titw penddu (-16.6%), o gymharu â ffigurau'r llynedd.

Mae niferoedd yr adar bach fel y titw tomos las a’r titw mawr yn agored i newidiadau yn y tywydd gydol y flwyddyn, ac mae gwyddonwyr o’r farn fod yr holl dywydd gwlyb yn ystod y tymor bridio yn 2016 wedi arwain at lai o adar ifanc yn goroesi na'r arfer, gan olygu bod llai ohonynt i’w gweld mewn gerddi.

Sylwodd plant ysgol y wlad ar batrwm tebyg wrth gymryd rhan yn Gwylio Adar yr Ysgol yr RSPB 2017. Yng Nghymru, roedd dros 3,600 o blant ysgol yn rhan o’r arolwg hwn o adar mewn ysgolion sy’n cael ei gynnal ledled y DU, ac wedi treulio awr yn cyfri’r adar a oedd i’w gweld ar dir eu hysgol. Y drudwy oedd yr ymwelydd mwyaf cyffredin ar dir yr ysgol unwaith eto, gyda’r frân dyddyn ac aderyn y to ymhlith y tri uchaf hefyd.

Mae ein gerddi’n adnoddau pwysig ar gyfer ein hadar, sydd angen bwyd, dŵr a lle diogel i gysgodi drwy gydol y flwyddyn. Drwy wneud ein rhan i’w helpu, rydyn ni’n gobeithio y gallwn ni gyfrannu at wrthdroi rhai dirywiadau. I gael rhagor o wybodaeth am ganlyniadau Gwylio Adar yr Ardd 2017 ewch i www.rspb.org.uk/birdwatch.