English version available here

Mae ynysoedd de-orllewin Cymru wedi dod yn adnabyddus am eu poblogaeth o adar drycin Manaw sy’n nythu yno a’n dal i dyfu mewn niferoedd hyd heddiw. Bellach mae dros 50% o adar drycin Manaw'r byd yn bridio ar ynysoedd Sir Benfro, sef RSPB Ynys Dewi, Ynys Sgomer a Sgogwm.

Llun: Chris Gomersall, rspb-images.com

Yn ystod y nos ym mis Medi, mae miloedd o’u hifanc yn gadael cysur eu cartrefi ac yn cwblhau’r daith o 7,000 milltir i arfordir yr Ariannin. Maent yn mynd allan i'r môr ond yn cael trafferth mewn gwyntoedd cryf neu stormydd a gellir eu chwythu yn ôl i’r tir o ganlyniad. Gall hyn hefyd ddigwydd yn ystod nosweithiau niwlog pan fo goleuadau'r tir mawr yn eu drysu.

Os byddwch chi'n dod ar draws un o'r adar môr du a gwyn hyn, byddem yn eich annog i'w rhoi mewn blwch cardbord wedi’i awyru a chysylltu â neu eu cyflwyno i un o'r lleoliadau canlynol a fydd yn trefnu eu rhyddhau'n ddiogel. Fodd bynnag, os ydych chi'n dod ar draws mwy na'r un aderyn drycin Manaw, yna rhowch nhw mewn blychau ar wahân os gwelwch yn dda.

Gogledd Sir Benfro

Voyages of Discovery - 1 High Street, St Davids 01437 720285

Thousand Islands Expeditions - Cross Square, St Davids 01437 721721

Canolbarth / De Sir Benfro

Cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth Natur y De a Gorllewin Cymru ar 07970 780553.

Mannau eraill yng Nghymru

Dilynwch y canllawiau uchod a chysylltwch â’r RSPCA ar 0300 1234 999.

Llun: Chris Reith, Wikimedia

Mae adar drycin Manaw yn treulio dros hanner eu bywydau ar y môr, a dim ond yn dychwelyd i'r tir er mwyn nythu. Yn y dyfroedd o gwmpas Môr Iwerddon a'r Cafn Celtaidd maent yn bwyta, cyn mudo i arfordir yr Ariannin ar gyfer y gaeaf.

Yn ddiweddar mae staff RSPB Ynys Dewi wedi bod yn gosod geoleolwyr (geolocators) ar yr adar. Dyfeisiau tracio bach iawn yw'r rhain sydd ddigon bach i ffitio ar fodrwy blastig fach, ac maent yn aros ar yr adar drwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn ein galluogi ni i 'ysbïo' ar yr adar pan fyddant ym mhen draw'r byd, sylwi ar unrhyw broblemau sy'n codi yn gynnar a darganfod mwy am eu teithiau.